Toglo gwelededd dewislen symudol

Clybiau pêl-droed a rygbi'n cael eu hannog i gefnogi Ymgyrch y Rhuban Gwyn

Gofynnir i glybiau rygbi a phêl-droed ar draws Abertawe ymuno â'r cyngor i nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn ddydd Iau 25 Tachwedd.

Loughor RFC White Ribbon support

Mae'n ymgyrch genedlaethol sy'n mynd i'r afael â thrais dynion yn erbyn menywod drwy ofyn i ddynion a bechgyn wrthwynebu trais a herio ymddygiad rhywiol amhriodol.

Mae Clybiau Rygbi Abertawe a Chasllwchwr wedi cofrestru, gyda'u chwaraewyr drwy wneud addewidion ar ffurf fideo byr.

Gofynnir i glybiau eraill, gan gynnwys clybiau llawr gwlad a chymunedol ymuno yn yr ymgyrch hefyd drwy ddangos eu cefnogaeth ar gyfryngau cymdeithasol cyn 25 Tachwedd, drwy ddefnyddio'r stwnshnodau #AllMenCan a #SwanseaMenCan.

Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe sy'n chwarae i Gasllwchwr, "Bob tri diwrnod mae menyw'n cael ei lladd gan ddyn yn y DU.

"Mae aflonyddu a cham-drin yn effeithio ar fenywod yn ddyddiol, yn y stryd, yn y gweithle ac yn eu cartrefi. Mae'n broblem sy'n tyfu, ac rydyn ni fel dynion yn gyfrifol am ei hatal.

"Ar gyfer Diwrnod y Rhuban Gwyn eleni, rydym yn gofyn i glybiau pêl-droed a rygbi ar draws Abertawe ddod at ei gilydd a gwrthwynebu trais yn erbyn menywod. Gall dynion Abertawe wneud gwahaniaeth.

"Rwy'n falch bod fy nghlwb yn cefnogi'r ymgyrch hon a byddwn yn annog eraill - yn hŷn ac yn iau - i ymuno a dangos eu cefnogaeth ar gyfer Diwrnod y Rhuban Gwyn."

Bydd Cyngor Abertawe'n rhannu'r holl sylwadau o'i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Am ragor o fanylion ac i gael pecyn fel y gall eich tîm gymryd rhan, e-bostiwch: VAWDASV@swansea.gov.uk

Os oes angen cefnogaeth arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod, neu os ydych chi'n pryderu am rywun arall ewch i www.abertawe.gov.uk/dydychchiddimareichpeneichhun

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Ionawr 2022