Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Arweinydd busnes wedi'i gyffroi gan ddyfodol canol y ddinas

Mae dyn sy'n berchen busnesau yng nghanol dinas Abertawe yn canmol y gwaith cyfredol i drawsnewid Wind Street yn gyrchfan mwy addas i deuluoedd.

Bruno Nunes

Bruno Nunes

Dywedodd Bruno Nunes, Prif Weithredwr 'Creative Hospitality Group', y bydd ansawdd y mannau awyr agored sy'n cael eu creu yn awr o fudd i ganol y ddinas gyfan.

Mae ei gwmni'n rhedeg tri busnes ar Wind Street - Peppermint, Bambu a BrewDog - yn ogystal â BrewStone yn ardal Uplands Abertawe.

Mae'r prosiect gwerth £3 miliwn i wella Wind Street a arweinir gan Gyngor Abertawe yn cynnwys cyflwyno palmentydd, seddi a gwyrddni newydd gyda mannau awyr agored dynodedig ar gyfer ardaloedd ciniawa lletygarwch.

Bydd Wind Street yn dod yn fwy hygyrch hefyd fel rhan o'r cynllun y disgwylir iddo gael ei gwblhau yn y misoedd i ddod. Mae llwybrau hygyrch, clir i gerddwyr o bob gallu'n cael eu cyflwyno a bydd y stryd ar un lefel i ddarparu lle hyblyg ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau eraill.

Mae cynllun Cyngor Abertawe yn dilyn ymgynghoriad â phreswylwyr a busnesau.

Meddai Mr Nunes, "Mae trawsnewid Wind Street yn 'ardal gaffis' fwy addas i deuluoedd yn cael ei groesawu'n fawr, felly dwi'n gwerthfawrogi buddsoddiad Cyngor Abertawe a'r arian cyfatebol y mae'r sector preifat yn ei ddarparu. 

"Mae tua 60% o'r busnesau ar Wind Street yn cynnig bwyd, felly mae potensial go iawn i Wind Street ddod yn ardal giniawa fywiog sy'n elwa o gynnig yn ystod y dydd a'r hwyr i bobl o bob oed.

"Mae cael ardal awyr agored o ansawdd yn allweddol i hyn. Drwy wella'r ffordd y mae Wind Street yn edrych ac annog mwy o giniawa, bydd yn arwain at fwy o weithgarwch yno yn ystod y dydd ac ar ôl gwaith, wrth helpu i ddenu mwy fyth o fuddsoddiad. 

"Bydd yr amgylchedd masnachu awyr agored hefyd yn gatalydd i newid y modd yr amgyffredir Wind Street ymhellach, rhywbeth sydd eisoes wedi gwella llawer yn y blynyddoedd diweddar diolch i waith caled busnesau lleol, Cyngor Abertawe a phartneriaid eraill."

Dywed Mr Nunes hefyd fod cynlluniau adfywio eraill a arweinir gan y cyngor fel datblygiad cam un Bae Copr sy'n werth £135m yn rhoi hyder i'r gymuned fusnes fod gan ganol dinas Abertawe ddyfodol disglair.

Meddai, "Mae canol y ddinas yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Mae'r cyngor yn gwbl ymroddedig i dwf a gwelliant canol y ddinas, mae'n gwrando ar fusnesau ac yn rhoi'r diweddaraf i ni.

"Mae prosiectau fel Bae Copr yn gwneud i bobl deimlo'n hyderus y bydd canol dinas Abertawe'n lle gwell i fyw, gweithio, astudio ac ymweld ag e'.

"Ni fyddai unrhyw beth yn fy ngwneud yn hapusach na ffydd pobl Abertawe'n yng nghanol y ddinas. Rwy'n gyffrous am y dyfodol."

Close Dewis iaith