Toglo gwelededd dewislen symudol

Fideo newydd yn dangos dyfodol Wind Street

Fideo o'r awyr trawiadol newydd yn dangos sut bydd Wind Street ar ei newydd wedd sy'n addas i deuluoedd yn edrych unwaith y caiff y gwaith gwella gwerth £3m ei orffen.

Wind Street fly-through CGI

Wind Street fly-through CGI

Wind Street yw stryd fwyaf adnabyddus y ddinas ac mae'n ganolfan ffyniannus ar gyfer busnesau a chymunedau yn ystod y dydd a chyda'r nos.

Disgwylir y bydd y gwaith gwella gwerth £3m wedi'i orffen i bob pwrpas erbyn diwedd mis Tachwedd. Pan fydd wedi'i orffen bydd yn fwy deniadol fyth, ac yn cynnwys gwelyau blodau a chelfi stryd newydd ac ychwanegiadau eraill i gyflwyno lliw a bywiogrwydd.

Bydd hefyd yn cysylltu â Gardd Sgwâr y Castell a gaiff ei huwchraddio cyn bo hir gyda rhagor o goed a gwyrddni, i gynnig cyrchfan arall sy'n addas i deuluoedd gyda mannau perfformio ac atyniadau eraill.

Bwriedir i Wind Street ar ei newydd wedd roi hwb i ardal gaffis canol y ddinas yn y cyfnod wrth i Arena Abertawe baratoi i groesawu miloedd lawer o ymwelwyr bob wythnos o ddechrau 2022.

Croesawyd y prosiect gan fusnesau Wind Street oherwydd bydd yn annog rhagor o ymwelwyr yn ystod y dydd, diolch i fwy o leoedd ar gyfer ciniawa y tu allan sydd wedi dod yn nodwedd gyfarwydd o leoliadau lletygarwch ers iddynt agor ar ôl y pandemig. 

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Bydd y gwaith i wella Wind Street wedi'i orffen cyn bo hir. Mae busnesau rwyf wedi siarad â nhw wrth eu boddau â'r gwaith sy'n cael ei wneud.

"Mae angen hwb arnynt ar ôl popeth maent wedi bod drwyddo dros y 18 mis diwethaf. Ar ben yr holl gymorth arall maent wedi'i gael gan y cyngor, bydd y gwelliannau'n newyddion da ar gyfer y tymor hir hefyd."

Ychwanegodd, "Yn ogystal â'r newidiadau i Wind Street ei hun, rydym hefyd yn ystyried creu lonydd ac aleau sy'n cysylltu Wind Street â mannau glanach a mwy diogel ac mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer celf stryd enfys ac ychwanegiadau diwylliannol eraill yn y misoedd i ddod."

Bruno Nunes yw Prif Weithredwr Creative Hospitality Group. Mae ei gwmni'n rhedeg tri busnes ar Wind Street - Peppermint, Bambu a BrewDog - yn ogystal â BrewStone yn ardal Uplands Abertawe.

Meddai Bruno, "Rwy'n edrych ymlaen at weld cynllun gwella Wind Street yn cael ei orffen ac at barhau i weithio'n agos gyda'r cyngor ar ragor o welliannau y gall fod eu hangen ar fusnesau yn y dyfodol er mwyn iddynt ffynnu a darparu profiad croesawgar i ymwelwyr â Wind Street a fydd yn cyd-fynd â chynlluniau uchelgeisiol y ddinas ar gyfer ei dyfodol.

"Bydd y cynllun gwella'n helpu i hyrwyddo Wind Street fel lle i fwyta, yn ogystal ag yfed. Bydd yn helpu i drawsnewid Wind Street ymhellach yn gyrchfan drwy'r dydd, heb anghofio am ei hunigrywiaeth a'i phwysigrwydd sylweddol i economi nos Abertawe.

"Gyda phobl heddiw yn chwilio am brofiad gwell, o ansawdd gwell yn hytrach na llu o fannau yfed, mae mwy a mwy o fusnesau ar Wind Street ac mewn mannau eraill yn ymateb i anghenion cwsmeriaid.

"Gyda chefnogaeth barhaus gan y cyngor, bydd hyn yn helpu i greu mwy o ymdeimlad o falchder yn Wind Street fel ardal giniawa'r ddinas, wrth ddenu rhagor o fuddsoddiad o safon yn Wind Street a'r ardaloedd o'i chwmpas."

Ymysg nodweddion allweddol eraill y tynnir sylw atynt yn y fideo o'r awyr mae:

  • Rhagor o goed i gynnig rhodfa gyfeillgar a fydd yn arwain at Erddi Sgwâr y Castell ar eu newydd wedd. Disgwylir i waith ddechrau yno yn y misoedd i ddod
  • Un lefel ar hyd y stryd gyfan a nodweddion eraill i sicrhau hygyrchedd i bawb
  • Gwell lleoedd ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau.

Bydd Wind Street yn ardal i gerddwyr yn unig ac eithrio yn ystod cyfnodau llwytho i fusnesau yn gynnar yn y bore a mynediad i gerbydau argyfwng a fydd yn gallu mynd i mewn i'r ardal yn hawdd pan fydd angen.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym am i Wind Street fod yn amgylchedd lletygarwch o safon sy'n addas i deuluoedd.

"Mae Wind Street ar ei newydd wedd yn elfen allweddol o'n gwaith gwerth £1b i drawsnewid y ddinas. Mae Bae Copr eisoes yn newid y nenlinell ac yn dod ag ymdeimlad o ddisgwyliad i fusnesau. Gyda thrawsnewidiad Gerddi Sgwâr y Castell yn dod yn fuan, gyda'i gilydd mae'n golygu bod Abertawe yn arwain y ffordd wrth i ni gynllunio ar gyfer Cymru ar ôl y pandemig."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Hydref 2021