Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyngor yn helpu pobl ifanc i ddechrau eu gyrfaoedd

Mae cannoedd o bobl yn ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle diolch i ddwy o fentrau Cyngor Abertawe sy'n eu helpu i ddod o hyd i waith.

Daniel Thomas - Kickstart

Daniel Thomas - Kickstart

Mae'r cynllun Gweithffyrdd+ yn cynnig hyfforddiant, profiad gwaith â thâl a chyfleoedd gwirfoddoli i bobl ddi-waith dros 25 oed i'w helpu i wella'u bywydau a dod o hyd i gyflogaeth.

Mae eisoes wedi helpu mwy na 1,000 o bobl sy'n byw yn Abertawe. Mae rhai wedi elwa o gyfleoedd profiad gwaith â thâl yn adran gwastraff y cyngor.

Fel rhan o gynllun adferiad economaidd y cyngor ac mewn ymateb i effaith y pandemig, mae'r cyngor bellach yn cynnig mwy na 300 o gyfleoedd lleoliad gwaith â thâl i bobl ddi-waith drwy Gweithffyrdd+ a'r cyd-gynllun cyflogaeth, Kickstart.

Mae'r cyfleoedd hyn ar gael ar draws amrywiaeth o rolau mewn busnesau a sefydliadau lleol, gyda thros 100 o swyddi yn y cyngor ei hun.

Mae cynllun Kickstart Llywodraeth y DU wedi arwain at fwy nag 20 o recriwtiaid newydd yn ymuno â thimau fel parciau, gwasanaethau adeiladau, rheoli gwastraff a diogelwch.

Dechreuodd Yousef Alzyoud, o Ben-clawdd, ar leoliad Gweithffyrdd+ gyda thîm rheoli gwastraff y cyngor ym mis Mehefin 2021.

Dechreuodd Craig Cherrington, o Dreforys, ar leoliad Gweithffyrdd+ gyda thîm rheoli gwastraff y cyngor ym mis Mehefin 2021.

Dechreuodd Raymond Davies, o Townhill, ar leoliad Kickstart gyda thîm rheoli gwastraff y cyngor ym mis Gorffennaf 2021.

Dechreuodd Daniel Thomas, o Dreboeth, ar leoliad Kickstart gyda thîm rheoli gwastraff y cyngor ym mis Awst 2021.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym am helpu pobl Abertawe i gael gwaith. Efallai mai Kickstart a Gweithffyrdd+ fydd y cynlluniau i lawer o bobl a busnesau.

Meddai'r Cynghorydd Alyson Pugh, Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau, "Rwyf wrth fy modd bod pobl ifanc sy'n ymuno â'r cyngor ar y cynllun hwn yn teimlo mor gadarnhaol am ein gwaith gyda Kickstart. Mae Gweithffyrdd+ hefyd yn profi'n boblogaidd ac yn llwyddiannus."

Mae Kickstart yn darparu cyllid i gyflogwyr o bob maint gynnig lleoliad i'r rheini sydd ar Gredyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith yn y tymor hir. Mae'r fenter £2bn yn rhan o gynllun Llywodraeth y DU ar gyfer swyddi ar draws Lloegr, yr Alban a Chymru.

Gall cyflogwyr a phobl ifanc sydd â diddordeb mewn ystyried cyfleoedd chwe mis Kickstart yn Abertawe gael rhagor o wybodaeth yma - https://www.abertawe.gov.uk/cynllunkickstart.

Cefnogwyd Gweithffyrdd+ gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am Gweithffyrdd+ ewch i www.workways.wales/?lang=cy-gb

Llun:Mae Daniel Thomas gyda Chyngor Abertawe ar y cynllun Kickstart.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Ionawr 2022