Gwaith ymchwilio'n digwydd cyn bo hir ar safle datblygu yng nghanol dinas Abertawe
Bydd gwaith ymchwilio safle cynnar yn digwydd cyn bo hir wrth i gynlluniau i drawsnewid hen ardal Canolfan Siopa Dewi Sant symud yn eu blaen yn gyflym.
Caiff y gwaith ei wneud gan yr arbenigwr adfywio Urban Splash fel rhan o ddatblygu cynigion ar gyfer y safle mewn partneriaeth â'r cwmni eiddo tirol, Milligan.
Cynhelir y gwaith ymchwilio safle ddydd Iau 11 Ebrill ac yna am oddeutu un wythnos o ddydd Llun 13 Mai.
Caiff ffens ei chodi o amgylch rhan o'r ardal laswelltog y tu allan i Eglwys Dewi Sant wrth i'r gwaith fynd rhagddo a gwneir pob ymdrech i sicrhau cyn lleied o darfu â phosib ar y cyhoedd.
Urban Splash yw partner adfywio tymor hir Cyngor Abertawe ar gyfer nifer o safleoedd yng nghanol y ddinas ac ar y glannau.
Mae cynigion defnydd cymysg manwl ar gyfer safle Dewi Sant yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a byddant yn cynnwys hwb sector cyhoeddus, yn ogystal ag ardal swyddfeydd newydd a fydd yn cynhyrchu swyddi newydd yn yr ardal ac yn cynyddu nifer yr ymwelwyr sy'n ymweld â busnesau yng nghanol y ddinas a thu hwnt.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r cynigion sy'n cael eu harwain gan Urban Splash a Milligan ar gyfer y safle yn ardal hen Ganolfan Siopa Dewi Sant yn rhan allweddol o'n cynlluniau adfywio mawr, a byddant yn helpu i ailfywiogi canol y ddinas ymhellach.
"Byddant yn helpu i ddatblygu gwell cysylltiadau rhwng canol y ddinas ac ardaloedd fel yr arena a'r glannau, wrth greu swyddi i bobl leol a denu rhagor o ymwelwyr i fusnesau canol y ddinas.
"Mae cynigion manwl yn cael eu datblygu ar hyn o bryd ac unwaith y byddant yn barod cânt eu darparu i'r cyhoedd er mwyn iddynt roi adborth arnynt.
"Mae gwaith ymchwilio safle o'r math hwn yn rhan safonol o'r broses ar gyfer prosiectau adfywio o'r maint hwn ar y camau cychwynnol.
Mae safleoedd eraill i'w hailddatblygu gan Urban Splash yn y blynyddoedd sy'n dod yn cynnwys y Ganolfan Ddinesig ar lan y môr. Bydd y cynigion ar gyfer y safle hwnnw'n cael eu darparu i'r cyhoedd hefyd er mwyn iddynt roi adborth arnynt unwaith y maent wedi'u sefydlu'n fanylach.