Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau'n mynd rhagddynt yn dda ar gyfer prif ddigwyddiadau ac atyniadau Nadolig Abertawe

Mae paratoadau'n cael eu gwneud ar gyfer dychweliad Gorymdaith y Nadolig Abertawe - ac mae'n mynd i fod yn un o'r goreuon eto.

Christmas Parade 2019

Christmas Parade 2019

Cynhaliwyd y digwyddiad diwethaf - a gafodd ganmoliaeth fawr gan y cyhoedd -yn 2019. Y llynedd, fel llawer o ddigwyddiadau'r Nadolig o gwmpas y DU, ni chafodd ei gynnal oherwydd y pandemig.Fel dewis amgen, cynhaliodd Cyngor Abertawe orymdaith rithiwr a fu'n boblogaidd iawn. 

Gan fod cyfyngiadau bellach yn cael eu llacio'n raddol, mae trefnwyr y digwyddiad yn y cyngor yn cynllunio gorymdaith i gyfateb i sbloets 2019 ar 21 Tachwedd. Bydd yn dilyn y canllawiau cyfredol i sicrhau y cedwir pobl mor ddiogel â phosib. 

Bydd yr orymdaith a chynnau goleuadau'r Nadolig yn dilyn fformat tebyg i ddigwyddiad 2019. Bydd yn cynnwys llwybr drwy ganol y ddinas, cymeriadau arbennig, cyfranogaeth gan y gymuned, peiriannau eira, tân gwyllt a Siôn Corn a fydd yn rhoi'r goleuadau ymlaen.

Bydd y cyngor yn gofyn i'r rheini sy'n dod i'r digwyddiad ddilyn y canllawiau diogelwch mwyaf cyfoes a gwasgaru eu hunain ar hyd y llwybr er mwyn caniatáu lle digonol iddyn nhw ac eraill.

Bydd dwy goeden Nadolig fawr yn cael eu gosod - un o flaen gwesty The Dragon a'r llall yn Sgwâr y Castell. 

Bydd Marchnad Nadolig Abertawe hefyd yn ei hôl, bydd goleuadau newydd yn ardal Stryd Rhydychen yng nghanol y ddinas a bydd y panto poblogaidd yn dychwelyd i'r Grand. Disgwylir i gynhyrchiad eleni - Snow White gyda Colin Jackson a Kevin Johns - gael ei gynnal o 10 Rhagfyr i 3 Ionawr. 

Bwriedir cael atyniad ar thema'r Nadolig ar bwys yr LC o ganol mis Tachwedd. Bydd Gwledd y Gaeaf ar y Glannau'n dychwelyd yma gyda'i Phentref Alpaidd ei hun ym Mharc yr Amgueddfa.Bydd llwybr a llyn iâ a gynhelir gan Sayers Events, ynghyd â phentref bwyd a ffair hwyl Nadoligaidd gydag olwyn fawr. Bydd mesurau diogelwch ar waith.

Meddai aelod y Cabinet Robert Francis-Davies, "Wrth i Abertawe arwain Cymru allan o'r pandemig rydym am wneud hwn yn Nadolig arbennig.  

"Yn anffodus, mae COVID yn dal i fod yma, felly byddwn yn gofyn i bawb barhau i ddilyn cyngor i sicrhau eu bod hwy ac eraill yn parhau i aros yn ddiogel. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn wrth i'n cynllunio barhau." 

Mae canllawiau diogelwch ar gyfer yr orymdaith yn debygol o gynnwys erfyn i'r rheini sy'n teimlo'n sâl i beidio â dod - ac i'r rheini sy'n dod i gadw pellter cymdeithasol lle bo modd a gwasgaru ar hyd y llwybr yn hytrach na chlosio at ei gilydd mewn rhai mannau. 

Mae staff y cyngor eisoes wedi cysylltu â grwpiau cymunedol a bandiau i ofyn iddynt gymryd rhan.Dylai grwpiau sy'n awyddus i gymryd rhan yn yr orymdaith e-bostio special.events@abertawe.gov.uk cyn 1 Tachwedd. 

Bydd Marchnad y Nadolig yn Stryd Rhydychen yn bennaf yn yr awyr agored a disgwylir iddi gael ei chynnal rhwng 26 Tachwedd a 21 Rhagfyr, yn unol â chanllawiau diweddaraf COVID. Mae'r cyngor yn gofyn i ymwelwyr ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau sydd ar waith ar y pryd. 

Bydd y goleuadau Nadoligaidd newydd sy'n cael eu gosod ar y coed yn Stryd Rhydychen yn cynnwys nodweddion newid lliw, yn debyg i'r rheini sydd yn Wind Street yn awr. Mae cynlluniau i osod pibonwy goleuedig o gwmpas canopïau ar Stryd Rhydychen, Whitewalls ac Union Street.

Mae un o'r prif goed Nadolig - uwchben y grisiau yn Sgwâr y Castell - yn cael ei noddi gan Dîm Gwasanaethau Plant a Theuluoedd y cyngor, gan hybu cymorth tuag at gostau gofal plant i rieni plant tair a phedair oed yng Nghymru sy'n gweithio.

Mae tocynnau ar gyfer sglefrio iâ yn atyniad Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, o 12 Tachwedd i 3 Ionawr, ar werth yn awr yn www.bit.ly/SwanseaWW2021. 

Llun: Gorymdaith y Nadolig lwyddiannus Abertawe yn 2019.

Close Dewis iaith