Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol gartrefol yn annog lles disgyblion yn llwyddiannus iawn

Mae arolygwyr yn dweud bod Ysgol Gymraeg y Cwm yn ysgol gynradd gartrefol, ddiogel a chynhwysol sy'n annog lles disgyblion yn llwyddiannus iawn.

Ysgol Gymraeg y Cwm Estyn Report 2024

Ysgol Gymraeg y Cwm Estyn Report 2024

Ymwelodd dîm o Estyn yn gynharach eleni ac mae wedi cyhoeddi ei adroddiad.

Mae'n dweud: "Mae bron pob disgybl yn ymddwyn yn dda iawn. Maent yn gwrtais ac yn barchus tuag at eraill.

"Maent yn teimlo bod staff yn eu cefnogi'n dda, yn gwrando arnynt ac yn delio'n briodol ag unrhyw bryder sydd ganddynt.

"Mae gan y rhan fwyaf o ddisgyblion agweddau cadarnhaol at eu dysgu. Maent yn gwrando'n dda ar gyfarwyddiadau'r athrawon ac yn canolbwyntio'n ddiwyd ar eu gwaith yn ystod sesiynau dysgu."

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod y pennaeth, Sara David, ei dirprwy bennaeth, Catrin Pryce, a gweddill y tîm addysgu'n cydweithio mewn modd brwdfrydig i annog disgyblion i siarad Cymraeg a bod yn falch o'u hunaniaeth Gymreig. "Mae'r berthynas waith gynhaliol a chyfeillgar sy'n bodoli rhwng aelodau'r tîm addysgu a disgyblion yn nodwedd arbennig."

"Maent yn arddangos gwerthoedd ac ymddygiad proffesiynol uchel sy'n anelu at sicrhau bod disgyblion yn gwneud eu gorau ar bron bob achlysur," meddai'r arolygwyr.

"Mae'r cwricwlwm yn eang a diddorol i ddisgyblion, ac yn datblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol yn dda a'u hannog i fwynhau dysgu."

Mae perthynas agos yn bodoli rhwng yr ysgol â rhieni, Cylch Meithrin Meini Bach, ac ysgolion lleol eraill ac mae'r perthnasoedd hyn yn sicrhau bod disgyblion yn dechrau ysgol gynradd ac uwchradd mor ddidrafferth â phosib.

Meddai Mrs David, "Rwy'n hynod falch bod yr arolygwyr wedi barnu bod ein hysgol yn gymuned hapus, ddiogel a chynhwysol lle mae lles ein disgyblion yn flaenoriaeth ac mae'n fraint dod â'r iaith yn ôl i gymuned a oedd yn un lle roedd y Gymraeg yn ffynnu.

"Gall ein holl ddisgyblion, ein staff a'r gymuned ehangach fod yn falch iawn o'r adroddiad hwn a hoffwn eu diolch am eu gwaith caled parhaus."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Gorffenaf 2024