Toglo gwelededd dewislen symudol

Marciau uchel ar gyfer disgyblion mewn ysgol hapus a chyfeillgar

Mae arolygwyr ysgol wedi dweud bod ymddygiad disgyblion sy'n mynychu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Abertawe a'u hymagwedd tuag at ddysgu yn rhagorol.

YGG Bryn-y-Môr Estyn Inspection Report

YGG Bryn-y-Môr Estyn Inspection Report

Gwnaeth tîm o Estyn ymweld ag Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn-y-Môr yn gynharach eleni ac maent bellach wedi cyhoeddi adroddiad.

Mae'n dweud y canlynol: "Mae disgyblion, staff a rhieni'n falch o ethos hapus a chyfeillgar yr ysgol.

"Mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel iawn yn yr ysgol diolch i'w naws cartrefol a chynhwysol, lle mae pawb yn parchu ei gilydd ac yn gofalu am ei gilydd.

"Mae'r Gymraeg wrth wraidd yr ysgol ac mae disgyblion yn dangos balchder yn eu hiaith. Maent yn defnyddio'r iaith yn hollol naturiol y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth."

Nodwedd gref arall sydd i'w gweld yn yr ysgol yw bod staff yn darparu cwricwlwm blaengar a chyffrous sy'n galluogi disgyblion i gaffael yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gefnogi eu gwaith.

Mae'r adroddiad yn dweud bod gan y Pennaeth, Elin Wakeham weledigaeth glir a chadarn ar gyfer yr ysgol, sy'n seiliedig ar ddatblygu lles disgyblion a chyfleoedd iddynt ffynnu. Mae llywodraethwyr yn gefnogol iawn o'r ysgol ac yn dangos ymwybyddiaeth dda o'u rolau a chyfrifoldebau ac yn cefnogi arweinwyr a staff yn effeithiol.

Meddai Mrs Wakeham: "Rwy'n falch iawn o'r staff a'r disgyblion ac rwy'n hapus bod yr arolygwyr yn cydnabod ein bod yn un teulu mawr cynhwysol sy'n dangos parch a gofal tuag at ein gilydd.

"Rwy'n hapus bod yr adroddiad yn cydnabod yr arweinyddiaeth ysbrydoledig ar draws yr ysgol, sy'n cefnogi staff i weithio'n dda gyda'i gilydd, yn sicrhau bod sgiliau allweddol yn cael eu plethu'n gall ar draws y cwricwlwm, bod gan athrawon ddisgwyliadau uchel o'u disgyblion a bod cynorthwywyr addysgu'n cefnogi disgyblion yn fedrus."

Close Dewis iaith