Mannau dirfawr newydd yn agor wrth i waith fynd yn ei flaen yn hwb canol y ddinas
Mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud ar safle Y Storfa, hwb gwasanaethau cyhoeddus newydd yng nghanol dinas Abertawe.
Mae'r contractwyr, Kier, yn gweithio ar ran y cyngor yn hen safle BHS ar Stryd Rhydychen ac maent wedi treulio nifer o fisoedd yn cael gwared ar strwythur allanol yr eiddo enfawr er mwyn ei ddychwelyd at ei sgerbwd a'i graidd.
Mae eu gwaith wedi datgelu'r gwagleoedd eang a fydd yn ardaloedd croesawgar i'r miloedd o bobl a fydd yn ymweld bob wythnos o'r flwyddyn nesaf pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau.
Fel rhan o waith adfywio'r ddinas gwerth £1biliwn bydd yn gartref i brif lyfrgell Abertawe a Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg a nifer o wasanaethau eraill y Cyngor sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r cyhoedd.
Bydd gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud â'r Cyngor yn y lleoliad yn cynnwys gwasanaeth Gyrfa Cymru Abertawe a gwasanaeth Cyngor ar Bopeth Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae digonedd o le ar gael yn Y Storfa - dyma un o'r rhesymau ein bod ni wedi penderfynu gwneud y safle'n gartref croesawgar newydd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus allweddol.
"Mae hefyd yn agos at feysydd parcio, llwybrau bysus a lleoedd a rennir sy'n cael eu defnyddio bob dydd gan filoedd o gerddwyr a beicwyr.
"Bydd busnesau lleol- yn ogystal â'r nifer o bobl a fydd yn ei defnyddio - yn elwa o leoliad Y Storfa.
Meddai Jason Taylor, cyfarwyddwr rhanbarthol Kier Construction Western & Wales,"Rydym yn hapus i fod yn datblygu Y Storfa ar gyfer y Cyngor a'r bobl leol - man cymunedol hanfodol yng nghanol y ddinas."
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwaith - neu unrhyw syniadau ynghylch sut y gall Kier gefnogi achosion a digwyddiadau lleol lle bynnag y bo modd - ffoniwch reolwr y safle, Jenny Jones, ar 07966 861721.
Bydd rhai gwasanaethau'r Cyngor sy'n symud i safle Y Storfa yn symud o'r Ganolfan Ddinesig, ac mae cynlluniau'n cael eu datblygu i newid y safle hwn yn ardal glan-môr ddinesig newydd mewn partneriaeth rhwng y Cyngor a'r datblygwyr byd enwog,Urban Splash.
Gallai cartrefi a mannau hamdden a lletygarwch newydd hefyd gael eu datblygu yno ar y safle ar lan y môr, ynghyd â gwyrddni, mannau cyhoeddus a rhodfa newydd i'r traeth.
Llun: Rhan o safle Y Storfa.