Toglo gwelededd dewislen symudol

Cipolwg ar Y Storfa: cynnydd yn yr hwb cymunedol

Mae gwaith yn datblygu'n dda ar safle Y Storfa, sef hwb gwasanaethau cymunedol newydd Abertawe.

YStorfaJan2025

YStorfaJan2025

Mae contractwyr Kier Group, sy'n gweithio ar ran Cyngor Abertawe, yn dechrau adeiladu waliau mewnol yn yr adeilad trillawr. 
Dros y misoedd diwethaf gwnaed cynnydd ar faterion fel dymchwel waliau a chreu ffenestr to newydd.
Disgwylir i'r prosiect yng nghanol y ddinas, yn hen adeilad siop BHS ar Stryd Rhydychen, gael ei gwblhau eleni. 
Bydd yn cynnwys amrywiaeth o wasanaethau sy'n hygyrch i'r cyhoedd ac yn annog mwy o ymwelwyr i ymweld â busnesau lleol wrth i'r Cyngor barhau â'i raglen adfywio gwerth £1 biliwn. 
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae'n wych gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud yn Y Storfa. Pan fydd yn agor, bydd yn lleoliad gwych ar gyfer pobl o bob rhan o'r ddinas."
Bydd Y Storfa, sy'n agos at feysydd parcio, safleoedd bysus a llwybrau beicio, yn cynnwys gwasanaethau a gynhelir gan y Cyngor fel y ganolfan gyswllt, opsiynau tai, dysgu gydol oes a'r brif lyfrgell gyhoeddus, yn ogystal â Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.
Disgwylir i denantiaid yr adeilad nad ydynt yn denantiaid y Cyngor gynnwys Gyrfa Cymru, Cyngor ar Bopeth, a Llyfrgell Glowyr De Cymru Amgueddfa Abertawe.    
Llun: Gwaith yn datblygu yn Y Storfa. 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Ionawr 2025