Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwylio tuag at ddyfodol disglair i bobl ifanc

Gallai ymgyrch brysur i godi arian arwain at gyfleoedd newydd di-rif i blant ddysgu sut i hwylio ym Mae Abertawe.

Mumbles Yacht Club

Mumbles Yacht Club

Mae aelodau Clwb Cychod Hwylio'r Mwmbwls eisoes wedi codi oddeutu £8,000 wrth geisio cyrraedd targed o £10,802.

Maent bellach yn apelio at bobl a sefydliadau lleol i helpu gyda'r cam olaf drwy blatfform codi arian y cyngor, sef Cyllido Torfol Abertawe. Y dyddiad cau yw canol mis Awst.

Mae nifer o brosiectau eraill yn Abertawe hefyd yn defnyddio'r platfform i geisio cyfraniadau gan unigolion a busnesau.

Mae'r clwb cychod hwylio hefyd wedi sicrhau cyllid gwerth bron £37,700 gan Chwaraeon Cymru, y sefydliad cenedlaethol ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Mae'r ddwy ffynhonnell wedi galluogi'r clwb i fuddsoddi mewn amrywiaeth o ddingis a chyfarpar arall a fydd yn berffaith i ddarpar hwylwyr ifanc.

Meddai Llywydd y clwb cychod hwylio, Richard Woffinden: "Rydym am annog mwy o blant i ddysgu sut i hwylio ac i wneud cynnydd ar ôl iddynt feistroli'r hanfodion."

Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor, "Mae ymgyrch y clwb cychod hwylio i godi arian yn syniad gwych ac rwy'n falch bod y cyngor, fel rhan o'r ymdrech cyllido torfol, wedi rhoi £5,000 i'r achos.

"Mae gan blatfform Cyllido Torfol Abertawe ddigon o brosiectau eraill sy'n diwallu anghenion cymunedol pwysig ac rwy'n annog unigolion a busnesau i ystyried rhoi arian; byddant yn helpu prosiectau i fynd rhagddynt yn eu cymuned eu hunain."

Mae ymgyrch codi arian y clwb cychod hwylio ymysg nifer o brosiectau ar blatfform Cyllido Torfol Abertawe. Mae'r lleill yn cynnwys Swansea Schools Orienteering, Silver Surf a'r ymgyrch i adfer y llwybr estyllod ym Mharc Llewelyn.

Mae ymgyrch i godi £5,106 i drefnu tair marchnad awyr agored a diwrnod gweithgareddau yn Nhregŵyr yr haf hwn eisoes wedi cyrraedd ei tharged.

Mae Spacehive, sy'n arbenigo mewn cyllido torfol, yn rheoli Cyllido Torfol Abertawe ar ran y cyngor. Fe'i hariennir yn rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Llun Plant yn mwynhau hwylio yng Nghlwb Cychod Hwylio'r Mwmbwls. Lluniau: Clwb Cychod Hwylio'r Mwmbwls

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Gorffenaf 2024