Gwobr genedlaethol gam yn nes i fasnachwyr ifanc
Bydd naw masnachwr marchnad ifanc o Dde Cymru'n arddangos eu sgiliau yn rownd derfynol cystadleuaeth a gynhelir ar draws y DU.
Nhw oedd y cystadleuwyr yn y safle uchaf yn rownd derfynol ranbarthol Cystadleuaeth Genedlaethol Marchnad y Masnachwyr Ifanc a gynhaliwyd yng nghanol dinas Abertawe.
Enillwyr categorïau'r gystadleuaeth a fydd yn mynd ymlaen i rownd derfynol y DU yw Hannah Worth, o Bowla, Abigail Smith, o Abi's Macarons (Pen-y-bont ar Ogwr), Katrina Taylor, o Midnight Illustrations (Abertawe) a Jemma Matthews, o The Garden Post (Abertawe).
Mae'r rheini a gafodd ganmoliaeth uchel yn y digwyddiad rhanbarthol hefyd yn mynd i rownd derfynol y DU: Anthony Johnson, o AJ The Confectionist; Emilia Leo, o Bubs Candles (Casnewydd, Gwent); David White, o Scentuary Scents (Caerffili); Leah Kelly, o Malfie & Cro (Cwmbran); Alana Jones, o Alana Jayne Jewellery (Casnewydd, Gwent); Hannah Bowen, o Hannah Bowen Jewellery (Porth Tywyn).
Cynhaliwyd rownd derfynol De Cymru gan Farchnad Abertawe a reolir gan Gyngor Abertawe.
Meddai dirprwy arweinydd ar y cyd y cyngor ac un o feirniaid y gystadleuaeth, David Hopkins, "Rydym yn dymuno'r gorau i'r masnachwyr ifanc wrth iddynt barhau â'u hymdrechion i fasnachu yn y farchnad."
Cynhelir y gystadleuaeth, sy'n agored i unrhyw fasnachwr ifanc rhwng 16 a 30 oed, gan Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Marchnad (NMTF).
Aeth y wobr am fasnachwr y dyfodol y flwyddyn i Rhianna Connors, 14 oed o Abertawe o RhiannA's Fashion and Fabrics.
Meddai Debra Bissett o The Baby Room ym Marchnad Abertawe, "Yn sicr, nid oedd y rheini fu'n cystadlu yn nigwyddiad Marchnad y Masnachwyr Ifanc wedi'n siomi. Roedd eu dawn a'u brwdfrydedd yn ysbrydoledig!"
Meddai Prif Weithredwr NMTF, Joe Harrison, "Pob lwc i'r holl fasnachwyr llwyddiannus sy'n mynd ymlaen i'r rownd derfynol genedlaethol gan gynrychioli De Cymru; edrychwn ymlaen at eu croesawu yno."
Disgwylir i'r rownd derfynol genedlaethol gael ei chynnal yn Stratford-upon-Avon ar 25 a 26 Awst.
Llun: Hannah Worth, o Bowla, gyda'i chydweithiwr Lloyd Mortimer a beirniaid y gystadleuaeth, o'r chwith: Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y Cyngor, David Hopkins, Arglwydd Faer Abertawe, Graham Thomas a Rheolwr Gyfarwyddwr reTHINK PR and Marketing, Natasha Fulford.