Helpwch brosiect coginio i bobl ag anabledd dysgu i gyrraedd targed cyllido
Mae angen rhoddion ariannol ar brosiect sy'n ceisio dysgu pobl yn Abertawe sydd ag anawsterau dysgu i goginio prydau bwyd iachus a chost isel
Mae Amanda Roberts, o Eiriolaeth eich Llais yn ceisio codi o leiaf £2,300 ychwanegol dros y mis nesaf i sicrhau bod y prosiect yn gallu mynd yn ei flaen.
Mae'r cais am ragor o roddion ariannol yn dilyn Cyngor Abertawe'n addo bron i £2,500 ar gyfer y prosiect drwy ei gronfa Cyllido Torfol Abertawe.
Trefnir gweithdai coginio wythnosol, dan arweiniad Amanda, ar gyfer y bobl sy'n cymryd rhan yn y prosiect lle byddant yn dysgu sgiliau gan gynnwys coginio, hylendid bwyd a dewisiadau ar gyfer prydau iachus a chost isel.
Os bydd y prosiect yn cyrraedd ei darged cyllido, bydd yn caniatáu iddynt brynu cynhwysion ac offer coginio, yn ogystal â thalu am gostau llogi gwagle yn The Social Bean yn Sgwâr y Santes Fair ar gyfer y gweithdai.
Mae Amanda, o Mayhill, wedi gweithio yn y diwydiant gofal am bron i 30 o flynyddoedd. Mae hi bellach yn eiriolwr ar gyfer Eiriolaeth eich Llais - elusen sydd wedi bod yn cefnogi pobl ag anawsterau dysgu ers 1989.
Meddai Amanda, "Rydym eisoes wedi cynnal ychydig o weithdai coginio ar gyfer pobl leol ag anawsterau dysgu sy'n dod i The Social Bean unwaith y mis ar gyfer digwyddiad cymdeithasol.
"Mae'r gweithdai wedi bod yn boblogaidd ac yn effeithiol iawn gan eu bod wedi magu hyder y bobl sy'n cymryd rhan wrth eu hannog i fwyta'n fwy iach hefyd.
"Nid yw nifer o'r bobl hyn wedi cael eu haddysgu am gynhwysion iachus a sut i goginio prydau maethlon, iachus yn y gorffennol, felly, yn sicr, mae angen y math hwn o weithgaredd.
"Ond ni fydd y prosiect yn gallu mynd yn ei flaen os nad ydym yn cyrraedd ein targed cyllido yn ystod y mis nesaf, felly byddwn yn annog cynifer o bobl i gyfrannu â phosib - ni waeth pa mor fach yw'r rhodd - gan fyddai'r gweithdai'n gwneud llawer o les i rai o'r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas.
"Er y byddai'r cyllid yn talu am y prosiect ar gyfer blwyddyn yn unig, mae gennym hefyd gynlluniau i wneud y prosiect yn fwy parhaol yn y dyfodol tymor hir hefyd, yn amodol ar gyllid."
Meddai'r Cynghorydd Alyson Anthony, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, "Mae'r syniad hwn am brosiect yn un gwerthfawr iawn a fyddai'n elwa cannoedd o bobl ag anableddau dysgu yn Abertawe.
"Dyma pam y mae'r cyngor wedi addo i ariannu hanner y costau y mae'r prosiect yn ceisio'u codi fel rhan o'n hymrwymiad i brosiectau cymunedol ar draws y ddinas.
"Rydym yn gobeithio'n fawr y bydd y prosiect yn codi'r cyfanswm cyllid yn fuan, ac rydym yn annog busnesau, sefydliadau eraill ac unigolion sy'n gallu fforddio rhoi arian i wneud hynny cyn gynted â phosib."
Ewch ar-lein i www.spacehive.com/cooking-together i roi arian.