Toglo gwelededd dewislen symudol

Cronfa wedi'i sefydlu i gefnogi cyn-filwyr y ddinas

Anogir cyn-filwyr Lluoedd Arfog y ddinas i fanteisio ar Gronfa Cyn-filwyr a sefydlwyd gan y cyngor.

Cenotaph_remembrance

Cenotaph_remembrance

Cytunwyd ar y gronfa gwerth £25,000 gan y cyngor fel rhan o'i gyllideb ar gyfer 2021/22 a gall cyn-filwyr wneud cais i'r gronfa am gymorth.

Mae'r gronfa ymysg ystod o gefnogaeth sydd ar gael i gyn-filwyr neu aelodau sy'n gwasanaethu'r Lluoedd Arfog dan Gyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog y cyngor.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor,

"Mae cyllideb y cyn-filwyr yn bwriadu rhoi rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol i gyn-filwyr neu aelodau sy'n gwasanaethu'r Lluoedd Arfog ar hyn o bryd.

Meddai, "Bydd y gronfa'n cefnogi mentrau sy'n mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â chyn-filwyr, a'r cyn-filwyr eu hunain. Mae'r gronfa'n croesawu mentrau/syniadau newydd a bydd yn darparu cyllid sbarduno ar gyfer syniadau newydd.

"Gall sefydliadau elusennol neu wirfoddol, y rheini ag amcanion elusennol a sefydliadau nid er elw preifat, gyflwyno cais. Os yw'r grant i gefnogi unigolyn, caiff ei dalu drwy sefydliad yr ymgeisydd; ni all unigolion wneud cais am gyllid grant yn uniongyrchol."

Meddai Wendy Lewis, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog Cyngor Abertawe, ""Rwy'n cwrdd â chyn-filwyr  a grwpiau cyn-filwyr yn aml ac rwy'n gwybod pa mor bwysig yw hi iddynt fod y gymuned o'u cwmpas yn gefnogol ohonynt.

"Rwy'n hyderus y bydd y gronfa newydd hon hefyd yn gwneud gwahaniaeth i'r rheini y mae ei hangen arnynt."

Bydd y dudalen cyflwyno cais am grant yn cael ei rhoi ar wedudalen Lluoedd Arfog y cyngor dros y dyddiau nesaf:https://www.abertawe.gov.uk/cyfamodcymunedolylluoeddarfog

Yn y cyfamser, gall unrhyw un ag ymholiad gysylltu â Spencer Martin drwy e-bostio spencer.martin@abertawe.gov.uk  

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Ionawr 2022