Abertawe Mwy Diogel
Gwneud ein cymunedau'n lleoedd mwy diogel i fyw a gweithio ynddyn nhw. Mae'r heddlu, y cyngor, y gwasanaeth tân, y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaeth prawf, yn ogystal â nifer o sefydliadau ac elusennau eraill, yn gweithio gyda'i gilydd i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae dyletswydd ar Abertawe Mwy Diogel i sicrhau bod pobl wedi'u hamddiffyn yn ddigonol rhag amrywiaeth o beryglon go iawn a chanfyddiedig. Bydd hyn yn cynnwys:
- troseddu
- ymddygiad gwrthgymdeithasol
- damweiniau tân
- darparu cefnogaeth a diogelwch i bobl y mae'r fath faterion yn effeithio arnyn nhw.
Mae'n gweithio yn y meysydd allweddol canlynol ac yn cynllunio ac yn cynnal prosiectau a gweithgareddau i fynd i'r afael â materion troseddu lleol sy'n cynnwys popeth o dafarnau a chlybiau'n defnyddio gwydrau plastig caled i farsialiaid tacsi, teledu cylch cyfyng a systemau diogelwch cartref.
- alcohol a chyffuriau
- ymddygiad gwrthgymdeithasol
- plant a phobl ifanc
- troseddu treisgar yng nghanol y ddinas
- cydlyniant cymunedol
- diogelu pobl mewn perygl
- gweithio gyda'n gilydd.
Rhoi gwybod am weithgarwch amheus
Pawennau ar Batrol
Gwarchod y Gymdogaeth Abertawe
Cysylltwch â Abertawe Mwy Diogel
- Enw
- Cysylltwch â Abertawe Mwy Diogel
- E-bost
- diogelwch.cymunedol@abertawe.gov.uk