Toglo gwelededd dewislen symudol

Grwpiau cymunedol yn cael eu hannog i gyflwyno'u ceisiadau ar gyfer grantiau gweithgareddau i blant

Mae grwpiau a sefydliadau cymunedol ledled Abertawe yn cael eu hannog i helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ein cymunedau'n cael Gaeaf Llawn Lles i'w cadw nhw'n brysur ac yn actif.

activity grant fun

Mae grantiau o hyd at £10,000 ar gael i grwpiau gwirfoddol a chymunedol, gan gynnwys grwpiau o gyfeillion a chanddynt syniadau gwych ynghylch sut i helpu pobl ifanc i fanteisio i'r eithaf ar y gaeaf.

Gall pobl sy'n trefnu gweithgareddau chwarae, chwaraeon neu sy'n chwilio am gyfarpar defnyddiol ar gyfer eu clwb neu grwp cymunedol lleol wneud cais am yr arian sydd ar gynnig gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru.

Ond y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 26 Tachwedd ac mae'n rhaid i'r holl nwyddau neu wasanaethau gael eu darparu erbyn 31 Mawrth.

Dywedodd Elliott King, Aelod y Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc, fod y cynnig grantiau'n gyfle gwych i gymunedau sicrhau bod plant ifanc yn cael gaeaf cynnes a phrysur.

Meddai, "Mae Cyngor Abertawe'n adeiladu ar lwyddiant rhaglenni Haf o Hwyl a Hwyl Hanner Tymor mis Hydref er mwyn rhoi llawer o gyfleoedd i'n plant a'n pobl ifanc y gaeaf hwn.

"Mae ein cynllun Gaeaf Llawn Lles ar gyfer Abertawe yn gofyn i grwpiau cymunedol, prosiectau chwarae, clybiau chwaraeon, llyfrgelloedd, grwpiau mewn gwisg unffurf, grwpiau trydydd sector ac unrhyw un a all gynnig gweithgareddau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed gysylltu â ni i roi gwybod sut gallant gyfrannu.

"Rydym yn bwriadu rhestru'r holl gyfleoedd ar ein gwefan fel bod manylion y cyfan sydd ar gael mewn un lle ar gyfer teuluoedd."

Meddai'r Cyng. King, "Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe'n cydnabod yr effaith enfawr y mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi'i chael ar blant a phobl ifanc, y maent wedi colli allan ar gymaint o bethau yn ystod y cyfnod pwysicaf yn eu bywydau.

"Mae hyn yn bennaf berthnasol i blant iau, y rheini sydd wedi bod yn gwarchod, y rheini y mae ganddynt anghenion ychwanegol a'r rheini nad ydynt wedi gallu mwynhau mynd allan i gael hwyl a datblygu oherwydd nifer o resymau, ond yn y pen draw rydym am i holl blant a phobl ifanc Abertawe fwynhau Gaeaf Llawn Lles a gwneud yn iawn am hyn."

Gall grwpiau neu sefydliadau sydd am ehangu eu rhaglenni cyfredol wneud ceisiadau hefyd, neu gallant ddefnyddio'r grant i helpu i sicrhau bod eu prosiectau cyfredol yn parhau yn y dyfodol.

Dylai unrhyw un sy'n teimlo y gallant gyfrannu at y rhaglen Gaeaf Llawn Lles, y mae arian arno i'w gefnogi i wneud hyn, e-bostio

childcareandplaygrants@abertawe.gov.uk am ffurflen gais neu ffonio Stephen Cable ar 07919 626728 am ragor o fanylion.

 

Close Dewis iaith