Toglo gwelededd dewislen symudol

Adeiladau wedi'u heithrio o reoliadau adeiladu

Mae rhai adeiladau a all fod wedi'u heithrio o reoliadau adeiladu. Gall y rhain gynnwys ystafelloedd gwydr, pyrth, garejis cartref, adeiladau bach ar wahân neu ffenestri newydd.

Er bod adeiladau efallai wedi'u heithrio o ran rheoli adeiladu, cofiwch y gall fod angen cydymffurfio â materion eraill o hyd, fel cynllunio. 

Os nad ydych yn siŵr am y rhain neu unrhyw agwedd ar adeiladau wedi'u heithrio, ffoniwch yr Adran Rheoli Adeiladu ar 01792 635636 neu e-bostiwch rheoliadeiladau@abertawe.gov.uk.

Mynediad i adeiladau

Os gwneir estyniad i eiddo cartref, ni ddylai'r fynedfa newydd, pan gaiff ei chwblhau, wneud mynediad i'r eiddo'n waeth nag o'r blaen. Bydd hyn yn cynnwys lled drysau, pennau grisiau a mynediad trwy ramp neu risiau.

Carthffosiaeth gyhoeddus

Cyn ymgymryd â gwaith ar eich eiddo, fe'ch cynghorir i wirio lleoliad pibellau carthffosiaeth trwy'ch eiddo. Gallwch gysylltu â Dŵr Cymru, a fydd yn gallu gwirio lleoliad pibellau.

Os ydych yn bwriadu adeiladu dros, neu o fewn 3 metr o un o'r pibellau carthffosiaeth neu ddraeniau, bydd angen i chi cael eu caniatâd. Mae Dŵr Cymru wedi llunio nodiadau arweiniol yn ogystal â ffurflenni datganiad a chais y maent i gyd ar gael ar eu gwefan. 

Arweiniad lleoli pibellau dŵr a charthffosydd gan Dŵr Cymru (Yn agor ffenestr newydd)

Ystafelloedd gwydr

Er mwyn cael ei heithrio, mae'n rhaid i'ch ystafell wydr fodloni'r meini prawf canlynol:

  • mae'n rhaid bod ar lefel y llawr gwaelod yn unig
  • mae'n rhaid i arwynebedd y llawr mewnol beidio â bod yn fwy na 30 metr sgwâr
  • mae gan ystafell wydr o leiaf dri chwarter o arwynebedd ei tho ac mae o leiaf hanner o arwynebedd ei waliau allanol wedi'u gwneud o ddeunydd tryleu
  • mae'n rhaid peidio â'i defnyddio at unrhyw ddiben arall, (e.e. cegin neu lety byw / cysgu)
  • mae'n rhaid cadw drysau a/neu ffenestri mynedfa allanol
  • mae'n rhaid defnyddio gwydriad diogel
  • rhaid i'r system wresogi fod ar wahân a heb ymestyn o'r prif dŷ gyda'i system reoli ei hun.

Pyrth

Er mwyn cael ei eithrio, mae'n rhaid i'ch porth fodloni'r meini prawf canlynol:

  • mae'n rhaid bod ar lefel y llawr gwaelod yn unig
  • mae'n rhaid i arwynebedd y llawr mewnol beidio â bod yn fwy na 30 metr sgwâr
  • mae'n rhaid peidio â'i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall (er enghraifft cegin neu lety byw / cysgu)
  • mae'n rhaid cadw drysau a/neu ffenestri mynedfa allanol
  • mae'n rhaid defnyddio gwydriad diogel
  • rhaid i'r system wresogi fod ar wahân a heb ymestyn o'r prif dŷ gyda'i system reoli ei hun.

Pyrth ceir

Er mwyn cael ei eithrio, mae'n rhaid i'ch porth ceir fodloni'r meini prawf canlynol:

  • mae'n rhaid bod ar lefel y llawr gwaelod yn unig
  • mae'n rhaid i arwynebedd y llawr mewnol beidio â bod yn fwy na 30 metr sgwâr
  • mae'n rhaid i'r porth ceir fod yn agored ar o leiaf ddwy ochr.

Garej / adeiladau bach ar wahân

Er mwyn cael ei heithrio, mae'n rhaid i'ch garej fodloni'r meini prawf canlynol:

  • mae'n rhaid iddi fod ar wahân
  • mae'n rhaid iddi fod yn un llawr
  • mae'n rhaid i arwynebedd y llawr mewnol beidio â bod yn fwy na 30 metr sgwâr
  • mae'n rhaid peidio â'i defnyddio at unrhyw ddiben arall (er enghraifft cegin neu lety byw / cysgu)
  • dylai fod yn fwy na metr o'r ffin neu'n hollol anhylosg
  • mae'n rhaid cyflwyno cais rheoliadau adeiladu am unrhyw wasanaeth er enghraifft trydan / draenio.

Tŷ allan bach / siediau (adeiladau ar wahân)

Er mwyn cael ei heithrio, mae'n rhaid i'ch sied fodloni'r meini prawf canlynol:

  • mae'n rhaid iddi fod ar wahân
  • mae'n rhaid i arwynebedd y llawr mewnol beidio â bod yn fwy na 15 metr sgwâr
  • mae'n rhaid peidio â'i defnyddio at unrhyw ddiben arall (er enghraifft cegin neu lety byw / cysgu)
  • mae'n rhaid cyflwyno cais rheoliadau adeiladu am unrhyw wasanaeth er enghraifft trydan / draenio.

Ffenestri newydd

Os ydych yn defnyddio gosodwr sydd wedi'i gofrestru gyda Chynllun Person Cymwys, nid oes angen cymeradwyaeth adeiladu.

Gwaith trydanol

Os ydych yn cyflogi trydanwr neu gwmni trydanol sydd wedi cofrestru ar Gynllun Hunanardystio, nid oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Ebrill 2021