Rheoli adeiladau
Mae ein gwasanaeth yn sicrhau bod adeiladau'n ddiogel, yn iach, yn gynaliadwy ac yn hygyrch i'r holl ddefnyddwyr. Rydym yn cynnwys adeiladau domestig, masnachol a defnydd cyhoeddus ac yn sicrhau eu bod yn bodloni rheoliadau adeiladu.
Mae rheoliadau adeiladu a chaniatâd cynllunio yn ddau beth ar wahân felly os ydych chi'n gwneud gwaith adeiladu, mae'n rhaid i chi fodloni rheoliadau adeiladu hyd yn oed os nad oes angen caniatâd cynllunio arnoch.
Mae Rheoli Adeiladau Abertawe'n cynnal arolygiadau wrth i'r gwaith gael ei wneud ac rydym yn hapus i drafod rhaglen arolygiad gyda chi fel ei bod yn addas i'ch cynllun. Y dyfynbris rydyn ni'n ei roi ar gyfer eich prosiect yw'r pris y byddwch chi'n ei dalu - mae'r gost hon yn cynnwys yr holl arolygiadau, cyngor a thystysgrif gwblhau os yw'r arolygiad yn foddhaol - felly does dim costau cudd ychwanegol ar gyfer ein gwasanaeth. Os ydych chi'n cysylltu â ni cyn 10.00am gallwn gynnal yr arolygiad ar yr un diwrnod a gallwn hefyd gynnal arolygiadau cynnar neu hwyr lle bo'n bosib.
Mae gan ein holl swyddogion wybodaeth leol o'r ardaloedd maent yn gweithredu ynddynt. Rydym yn Awdurdod Rheoli Adeiladau Lleol ac yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o swyddogion rheoli adeiladau eraill. Rydym hefyd yn cynghori ar ddiogelwch cyhoeddus, diogelwch ar feysydd chwarae ac adeileddau peryglus, ac yn gweithio'n agos gyda swyddogion diogelwch tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn ogystal â'r gwasanaethau brys eraill.
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau am ein gwasanaeth, cysylltwch â Tom Price, Llygredd, Tai'r Sector Preifat a Rheoli Adeiladau, ebost bcon@abertawe.gov.uk.