Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiadau ym Mayhill a Waun Wen Mai 2021 - Adolygiad Dysgu Annibynnol

Mae'r panel a gynhaliodd Adolygiad Dysgu Annibynnol ar y digwyddiadau ym Mayhill a Waun Wen ym mis Mai 2021 wedi cyhoeddi'i ganfyddiadau heddiw. Rydym yn croesawu'r adroddiad a hoffem ddiolch i'r panel am eu gwaith wrth gynnal yr adolygiad.

Bydd Heddlu De Cymru a Chyngor Abertawe'n gweithio gyda phartneriaid i roi argymhellion yr adroddiad ar waith ac i barhau i gefnogi'r teuluoedd a'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiadau hyn.

Mae adroddiad y panel ar gael yma:

Adolygiad Dysgu Annibynnol (PDF) [213KB]

 

Ar gyfer ymateb Cyngor Abertawe, cliciwch yma

Ar gyfer ymateb Heddlu De Cymru, cliciwch yma

Ar gyfer ymateb Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, cliciwch yma

 

Ymateb y cyngor i'r Adolygiad Dysgu Annibynnol i'r digwyddiadau ym Mayhill a Waun Wen ym mis Mai 2021

Mae Cyngor Abertawe'n croesawu canfyddiadau'r arolwg a diolchwn i'r Panel am eu gwaith.

Rydym yn ddiolchgar eu bod wedi cydnabod y cynllun cynhwysfawr rydym wedi'i ddatblygu ar gyfer Mayhill a Waun Wen sy'n manylu ar fuddsoddiad a chefnogaeth sylweddol y cyngor dros nifer o flynyddoedd a'n cynlluniau ar gyfer buddsoddiad ychwanegol i adeiladu ar hyn.

Nid oedd digwyddiadau 20 Mai'r llynedd yn adlewyrchu'r preswylwyr na'r cymunedau hyn a byddwn yn parhau i fod yno ar gyfer Mayhill a Waun Wen.

Rydym eisoes yn gweithio i fynd i'r afael ag argymhellion y Panel ar gyfer y cyngor a byddwn yn cwrdd â phartneriaid i wella a chryfhau'r ffordd rydym yn gweithio.

Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae canolfan iechyd a phlant newydd wedi agor, bu buddsoddiad i ehangu'r ddarpariaeth Dechrau'n Deg ymhellach, mae arian wedi'i wario ar greu hwb cymorth cynnar a gweithgareddau yn ystod gwyliau ysgol a darpariaeth ieuenctid arall.

Ers mis Mai mae'r cyngor wedi gosod ardal chwarae newydd ym Mharc Mayhill ac mae clwb ieuenctid dros dro wedi dechrau yn y ganolfan gymunedol a chafwyd gweithgareddau eraill gan gynnwys diwrnod hwyl am ddim i deuluoedd a oedd yn llwyddiannus iawn.

Byddwn yn rhoi hwb pellach i'n gwasanaethau ieuenctid a'n cyfleusterau yn yr ardal hon fel rhan o'n buddsoddiad parhaus yn ein pobl ifanc.

Rydym hefyd wedi bod yn siarad â busnesau am welliannau i ardaloedd masnachol fel Gors Avenue i'w gwneud yn ardaloedd mwy croesawgar fel rhan o Gynllun Adfer Economaidd Abertawe ar gyfer busnesau ledled y ddinas.

Yn dilyn ein hymateb di-oed i glirio ac atgyweirio difrod a achoswyd yn ystod yr aflonyddwch, rydym hefyd wedi cymryd camau i ailwynebu ffyrdd, ychwanegu rhagor o gelfi stryd a thorri gordyfiant gyda rhagor i ddod.

Rydym yn gweithio gyda phreswylwyr ar ddatblygu cynllun ffordd newydd a gwaith tirlunio i greu rhwystr naturiol newydd ar Heol Waun Wen ac, yn amodol ar eu cefnogaeth, ein bwriad yw creu ardal chwarae a man cymunedol newydd fel rhan o'r gwaith hwn.

Byddwn hefyd yn hyrwyddo'n gweithgareddau ymgysylltu cymunedol a phrosiectau gweithredu cymunedol, ym Mayhill a Waun Wen a ledled Abertawe, drwy ddatblygu mentrau lleol i leihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, cynyddu ymwybyddiaeth o wirfoddoli a hyrwyddo gwerthoedd cyffredin, amrywiaeth a chynhwysiant.

Close Dewis iaith