
Adrodd am ddigwyddiad
Mae'n rhaid rhoi gwybod am unrhyw ddamweiniau sy'n digwydd yn y gweithle er mwyn i ni eu harchwilio a rhoi cyngor ar sut i'w hatal rhag digwydd eto yn y dyfodol.
Mae'r Rheoliadau Adrodd am Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 2013 (RIDDOR) yn datgan bod rhaid i chi (y cyflogwr) adrodd am:
- ddamweiniau difrifol yn y gweithle
- clefydau galwedigaethol
- digwyddiadau peryglus (bron â chael damwain)
- marwolaethau sy'n ymwneud â'r gwaith
Ar gyfer anafiadau sylweddol, gallwch roi gwybod i ni gyntaf cyn cwblhau adroddiad. Os oes achos o farwolaeth sy'n ymwneud â'r gwaith, mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni yn ddi-oed trwy ffonio 01792 635600.
Adrodd y tu allan i oriau gwaith
Ceir gwybodaeth am bryd a sut i adrodd am ddigwyddiadau difrifol a pheryglus y tu allan i oriau gwaith arferol ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a DiogelwchYn agor mewn ffenest newydd.