Toglo gwelededd dewislen symudol

Adroddiadau perfformiad chwarterol a blynyddol

Adroddir ar ddangosyddion perfformiad (DP) bob mis, bob chwarter a bob blwyddyn. Defnyddir y DP hyn ar hyn o bryd i ddangos sut mae'r awdurdod yn perfformio i gynulleidfa ehangach.

Mae'r cyngor yn cyflwyno adroddiad perfformiad corfforaethol chwarterol tair gwaith yn ystod y flwyddyn yn ogystal ag adroddiad perfformiad terfynol ar ddiwedd y flwyddyn.Mae'r adroddiad perfformiad diwedd y flwyddyn hwn yn cwmpasu perfformiad ar gyfer y flwyddyn ddinesig gyfan o 1 Ebrill i 31 Mawrth.

Y cyfnodau yr adroddir arnynt yn chwarterol yw 1 Ebrill i 30 Mehefin, 1 Gorffennaf i 30 Medi ac 1 Hydref i 31 Rhagfyr.

Mae'r adroddiadau monitro perfformiad hefyd yn adrodd am gynnydd o ran bodloni amcanion y prif flaenoriaethau fel a ddisgrifir yn y Cynllun Corfforaethol, gan roi ystyriaeth i:

  • dueddiadau blaenorol
  • ffactorau tymhorol
  • adnoddau sydd ar gael
  • deallusrwydd

D.S. Ar gyfer adrodd yn 2020/21 a 2021/22, penderfynwyd na fyddai perfformiad yn cael ei asesu yn erbyn targedau o ganlyniad i ansicrwydd ynghylch lefelau perfformiad o ganlyniad i effeithiau pandemig Coronafeirws ar wasanaethau.

2022/23

Adroddiad Blynyddol Rheoli Perfformiadd Corfforaethol 2022-2023 (PDF) [3MB]

2021/22

Adroddiad Blynyddol Rheoli Perfformiadd Corfforaethol 21-22 (PDF) [2MB]

2020/21

Adroddiad Blynyddol Rheoli Perfformiadd Corfforaethol 2020-21 (PDF) [7MB]

2019/20

Adroddiad Blynddol Rheoli Perfformiadd Corfforaethol 2019-20 (PDF) [5MB]

2018/19

Adroddiad Blynyddol Rheoli Perfformiad Corfforaethol 2018-19 (PDF) [6MB]

2017/18

Adroddiad Perfformiad 2017-18 (PDF) [4MB]

2016/17

Adroddiad Perfformiad 2016-17 (PDF) [10MB]

Weithiau bydd y perfformiad yn wyrdd neu'n goch yn erbyn y targed, ond gall fod y perfformiad yn wael neu'n well o'i gymharu â gweddill Cymru. Weithiau bydd y targedau a osodwyd yn atgyfnerthu hyn.

Fodd bynnag, byddai'r ffactorau a amlygwyd uchod, megis tueddiadau blaenorol, a yw'n flaenoriaeth ai peidio, adnoddau sydd ar gael i'w buddsoddi etc. wedi'u hystyried wrth osod targedau o'r fath i sicrhau eu bod yn realistig a chyraeddadwy; byddai'r targed hefyd yn ddangosydd ac yn gymhelliad i ddangos sut byddai angen gwella perfformiad i gymharu'n well â chynghorau eraill yng Nghymru.

Mae enghreifftiau o'r adroddiadau chwarterol diweddaraf

Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill sy'n ymwneud yn benodol â adrodd ar berfformiad corfforaethol y cyngor, e-bostiwch improvement@abertawe.gov.uk.