Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Adolygiad sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn

Mae Adolygiad sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn (ACU) yn ffordd o gydweithio a chyfathrebu'n gadarnhaol â'n gilydd, ac mae'r plentyn bob amser yn ganolog i'r broses hon.

Mae Adolygiad sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn (ACU) yn ffordd o gydweithio a chyfathrebu'n gadarnhaol â'n gilydd, ac mae'r plentyn bob amser yn ganolog i'r broses hon.

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn canolbwyntio ar roi'r plentyn / person ifanc wrth wraidd y broses adolgyu, a chyflawnir hyn drwy'r Adolygiad sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn (ACU). Nod ACU yw rhoi'r plentyn / person ifanc a'i deulu wrth wraidd yr holl gynllunio a phenderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Mae'r ACU yn sicrhau y gwrandewir ar y plentyn / person ifanc a'i deulu, eu bod yn cael eu parchu, eu gwethfawrogi ac y gofalir amdanynt. Rydym yn defnyddio ACU i helpu i benderfynu sut orau i gefnogi plant / pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwaengol y mae angen darpariaeth ddysgu ychwanegol arnynt gyda chyfraniad y plentyn / person ifanc a'u teuluoedd.

Pwy sy'n casglu'r wybodaeth?

Sut mae'r adolygiad yn gweithio?

Beth yw proffiliau Un Dudalen a Chanlyniadau sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn?

Pryd caiff yr Adolygiad sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn ei gynnal?

Dwi am wneud cais am adolygiad, sut mae gwneud hynny?

Beth ydw i'n ei wneud os ydw i'n anghytuno â'r pethau a ddigwyddodd yn yr adolygiad?

 

Pwy sy'n casglu'r wybodaeth?

Cyn yr adolygiad, bydd athro neu gynorthwyydd addysgu (CA) eich plentyn / person ifanc yn helpu i gasglu syniadau a safbwyntiau eich plentyn / person ifanc. Caiff yr wybodaeth hon ei rhannu â phawb yn ystod y cyfarfod canolbwyntio ar yr unigolyn a bydd yn helpu i lywio'r camau nesaf.

Sut mae'r adolygiad yn gweithio?

Cynhelir cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn dal i fod yn addas i'ch plentyn / person ifanc, a bod y gefnogaeth sydd ar waith yn dal i fod yn berthnasol i'w helpu i gyflawni'i ddyheadau. Bydd meddyliau, safbwntiau a barn eich plentyn / person ifanc wrth wraidd yr adolygiad. Mae'n bwysig bod y rheini sy'n gweithio gyda'ch plentyn / person ifanc yn bresennol yn yr adolygiad. Bydd pawb sy'n bresennol yn trafod yr hyn sy'n gweithio ar hyn o bryd, yr hyn nad yw'n gweithio a beth yw dyheadau pawb ar gyfer eich plentyn / person ifanc. Cytunir ar ganlyniadau a chamau gweithredu i gefnogi'ch plentyn / person ifanc. Ar ôl yr adolygiad, bydd cynllun gweithredu'n cael ei lunio a bydd y CDU sydd wedi'i adolygu'n cael ei rannu â'r holl bobl berthnasol.

Beth yw proffiliau Un Dudalen a Chanlyniadau sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn?

Bydd gan bob plentyn / person ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) broffil un dudalen a chanlyniadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'r ddau'n rhan o'r Cynllun Datblygu Unigol.

Proffiliau Un Dudalen

Bydd y proffil hwn yn cael ei ysgrifennu gan eich plentyn / person ifanc (gyda chefnogaeth lle bo hynny'n briodol) ac yn cynnwys gwybodaeth fanwl am ei gryfderau, yr hyn sy'n bwysig iddo a sut mae'n hoffi cael ei gefnogi yn ogystal â'r hyn sydd ei angen arno er mwyn iddo gyflawni.

Canlyniadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Canlyniadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yw'r targedau y mae eich plentyn / person ifanc yn mynd i fod yn gweithio arnynt. Dylai'r targedau adeiladau ar yr hyn sy'n gweithio'n dda, newid yr hyn nad yw'n gweithio'n dda a chanolbwyntio'n gryf ar alluogi'ch plentyn / person ifanc i symud tuag at ddyheadau hirdymor. Bydd y rhain wedi'u hysgrifennu ar y cyd â chi eich hun, eich plentyn / person ifanc a'r holl weithwyr proffesiynol sy'n rhan o'r broses.

Pryd caiff yr Adolygiad sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn ei gynnal?

Gall yr adolygiad gael ei gynnal ar unrhyw adeg ond caiff ei gynnal yn benodol dan yr amgylchiadau hyn:

  1. Mae'r plentyn / person ifanc, gweithiwr proffesiynol, rhiant / gofalwr yn gofyn am adolygiad.
  2. Bob 12 mis.
  3. Newid mewn amgylchiadau i'r plentyn / person ifanc.

Dwi am wneud cais am adolygiad, sut mae gwneud hynny?

Cysylltwch â'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn yr ysgol / coleg; dywedwch wrtho pam eich bod am drefnu adolygiad er mwyn gallu trafod eich pryderon ac, os oes angen, aildrefnu ACU.

Beth ydw i'n ei wneud os ydw i'n anghytuno â'r pethau a ddigwyddodd yn yr adolygiad?

Siaradwch â'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn yr ysgol / coleg. Bydd yn eich helpu, yn trafod eich pryderon ac yn gwneud cynllun i fynd i'r afael â nhw. Gall y Gweithwyr Achos ADY eich cefnogi ymhellach.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Mawrth 2023