Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Cyfleuster Addysgu Arbenigol (CAA) o fewn ysgolion prif ffrwd

Bydd anghenion y rhan fwyaf o blant / bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu diwallu mewn ysgol brif ffrwd. I'r rheini y mae angen cymorth ychwanegol arnynt, gall darpariaeth arbenigol brif ffrwd helpu.

Beth yw CAA?

Fel arfer mae CAA yn ardal ar wahân o fewn ysgol, lle mae nifer bach o blant/bobl ifanc sydd ag anghenion uchel neu arwyddocaol yn cael eu haddysgu ar wahân. Mae'r rhan fwyaf o CAAau yn rhoi cyfle i blant/bobl ifanc fynd i rai dosbarthiadau prif ffrwd, gyda chefnogaeth briodol.

Pwy all fynd i gyfleuster addysgu arbenigol (CAA)?

Bydd hyn yn cael ei benderfynu gan banel amlasiantaeth. Bydd y panel yn edrych ar wybodaeth a ddarperir gan bobl sy'n gweithio gyda'ch plentyn/person ifanc. Os ydych wedi rhannu'ch barn, yna mae'r rhain yn cael eu hystyried gan y panel.

Pwy sy'n ymwneud â phanel amlasiantaeth?

Mae panel amlasiantaeth yn cynnwys un o swyddogion y cyngor, penaethiaid, CADYau, therapyddion iaith a lleferydd, athrawon arbenigol, gweithwyr cymdeithasol, seicolegwyr addysg a SNAP Cymru. Maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd i edrych ar yr wybodaeth sydd wedi'i rhannu i wneud argymhellion ynglŷn â darpariaeth a chefnogaeth.

Rwy'n meddwl bod angen i fy mhlentyn/mherson ifanc fynd i gyfleuster addysgu arbenigol (CAA), sut rydw i'n gwneud cais?

Mae angen i chi drafod hyn ag ysgol bresennol eich plentyn/person ifanc. Gall yr ysgol/coleg drefnu cyfarfod Adolygu sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn lle mae barn y plentyn, chi'ch hun a phawb sy'n ymwneud â chefnogi'r plentyn yn cael ei rhannu a'i thrafod. Bydd angen i'r ysgol/coleg gasglu gwybodaeth a'i rhannu â ni er mwyn i ni wneud penderfyniad cytbwys.

Mae'n bosib y byddwch mewn cysylltiad â'r tîm gweithwyr achos, gan y byddant yn gallu trafod pryderon a'ch cefnogi yn ystod y broses. Os oes angen cymorth neu gyngor ychwanegol arnoch, e-bostiwch caseworker@abertawe.gov.uk

Pwy sy'n penderfynu a all fy mhlentyn/mherson ifanc fynd i gyfleuster addysgu arbenigol?

Gwneir y penderfyniad hwn gan banel lleoli amlasiantaeth a fydd yn ystyried anghenion eich plentyn/person ifanc.

Mae penderfyniadau panel amlasiantaeth bob amser yn ystyried rhieni'r plentyn/ person ifanc a barn yr ysgol/coleg ac mae'n rhaid iddynt ddefnyddio'r dystiolaeth a ddarperir iddynt i gefnogi'u penderfyniad

Pa gyfleusterau addysgu arbenigol (CAA) sydd yno?

Gallwch ddod o hyd i restr o'r holl leoliadau arbenigol yma.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023