Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Cynllun Datblygu Unigol (CDU)

Rydym am i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (YDY) elwa i'r eithaf o feithrinfa, ysgol neu goleg. Er mwyn gwneud hyn, mae angen cynllun clir arnyn nhw.

Beth yw CDU?

Sut mae'r CDU yn cael ei lunio?

Pwy sy'n defnyddio'r CDU?

Beth yw Proffil Un Dudalen?

Pryd mae'r CDU yn cael ei adolygu?

Sut ydw i'n gwybod a oes gan fy mhlentyn CDU?

Dwi eisiau i fy mhlentyn gael CDU. Beth y dylwn i ei wneud?

Mae gan fy mhlentyn anawsterau dysgu. Pam nad oes ganddo CDU?

 

Beth yw CDU?

Bydd gan blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) y mae angen darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) arnynt gynllun i'w cefnogi. Gelwir hyn yn Gynllun Datblygu Unigol neu CDU yn fyr.

Os yw'ch plentyn wedi'i nodi'n blentyn ag angen dysgu ychwanegol sy'n gofyn am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol, bydd yn derbyn CDU. Mae CDU yn ddogfen statudol a fydd yn cofnodi manylion eich plentyn gan gynnwys:

  • Disgrifiad o ADY eich plentyn.
  • Y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y cytunwyd arni.
  • Pwy sy'n gyfrifol am ddarparu'r DDdY (awdurdod lleol, ysgol neu'r awdurdod iechyd).
  • Canlyniadau y cytunwyd arnynt y bydd eich plentyn yn gweithio tuag atynt.

Mae'r llun yn dangos enghraifft o sut olwg sydd ar CDU yma yn Abertawe:

Sut mae'r CDU yn cael ei lunio?

Mae'r cynllun yn cael ei lunio drwy ddull amlasiantaeth gyda mewnbwn gan eich plentyn / person ifanc. Mae dull amlasiantaeth yn golygu y gall gwahanol bobl sy'n ymwneud ag addysg eich plentyn / person ifanc fewnbynnu eu barn yn y cynllun - mae hyn yn eich cynnwys chi a'r plentyn / person ifanc. Mae hyn fel arfer yn digwydd mewn cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Pwy sy'n defnyddio'r CDU?

Mae'r CDU i'w ddefnyddio gan bawb; lleoliadau'r Blynyddoedd Cynnar, ysgolion / colegau, rhieni, gweithwyr proffesiynol ac unrhyw un sy'n ymwneud â chefnogi taith ddysgu'ch plentyn.

Beth yw Proffil Un Dudalen?

Bydd cynllun CDU hefyd yn cynnwys Proffil Un Dudalen (PUD) sy'n grynodeb syml, byr o'r hyn sy'n bwysig i blentyn neu berson ifanc a sut mae am gael ei gefnogi.

Mae'r llun yn dangos enghraifft o sut y gallai Proffil Un Dudalen edrych:

Pryd mae'r CDU yn cael ei adolygu?

Bydd y Cynllun Datblygu Unigol yn cael ei adolygu:

  • o leiaf unwaith bob 12 mis
  • pan fydd rhywun yn gofyn iddo gael ei adolygu
  • pan fydd unrhyw beth yn newid i'r plentyn neu'r person ifanc.

Rhaid i awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau barhau i adolygu'r CDU er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n berthnasol ac yn diwallu anghenion eich plentyn orau.

Sut ydw i'n gwybod a oes gan fy mhlentyn CDU?

Os ydych yn ansicr, gofynnwch i'r lleoliad, yr ysgol neu'r coleg. Siaradwch â'r athro neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a byddant yn gallu'ch cynghori.

Dwi eisiau i fy mhlentyn gael CDU. Beth y dylwn i ei wneud?

Mae angen i chi siarad ag athro'r dosbarth. Bydd athro'r dosbarth yn gweithio gyda chi i benderfynu a oes gan eich plentyn angen dysgu ychwanegol ac a oes angen CDU arno.

Mae gan fy mhlentyn anawsterau dysgu. Pam nad oes ganddo CDU?

Gall plentyn / person ifanc gael anawsterau dysgu nad ydynt yn cael eu hystyried yn ADY. Mae hyn yn golygu ei fod yn cael ei gefnogi yn y dosbarth drwy ddarpariaeth gyffredinol, sef cefnogaeth sydd ar gael i bob plentyn.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Mawrth 2023