Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Y Blynyddoedd Cynnar

Gall plant ag anghenion ychwanegol ac anawsterau dysgu gael mwy o drafferth wrth ddysgu sgiliau newydd na'r rhan fwyaf o blant o'r un oedran ac mae angen cymorth ychwanegol arnynt wrth ddysgu pethau newydd.

Pa anawsterau y gallent eu cael?

Gall plant gael trafferthion deall, siarad, gweld, clywed, symud neu gyda'u teimladau neu eu hymddygiad. Gall plant gael trafferthion â mwy nag un o'r meysydd hyn.

Sut mae modd eu cefnogi?

Gellir cefnogi plant ag anghenion ychwanegol mewn ffyrdd gwahanol gan ddibynnu ar y math a'r lefel o anhawster. Er enghraifft, sesiwn gyda therapydd iaith a lleferydd neu gyngor gan therapydd galwedigaethol.

Pwy all helpu os yw'ch plentyn dan 5 oed ac rydych chi'n meddwl y gall fod angen cymorth ychwanegol arno?

Mae gan Gyngor Abertawe dîm o weithwyr proffesiynol y Blynyddoedd Cynnar (BC) sy'n arbenigo mewn gweithio gyda phlant cyn oed ysgol (0-5 oed).

Beth mae Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (SAADYBC) a Thîm Cymorth a Chynhwysiad ADY y Blynyddoedd Cynnar yn Abertawe yn eu gwneud?

Mae'r Tîm Cymorth a chynhwysiad ADY y Blynyddoedd Cynnar yn cynnig cyngor a chymorth i helpu i ddiwallu anghenion plant sydd dan 5 oed ag anghenion ychwanegol sy'n dod i'r amlwg neu sydd wedi'u diagnosio. Ffocws y tîm yw helpu i archwilio a deall datblygiad eich plentyn a grymuso a chefnogi rheini a staff gofal plant i greu newid cadarnhaol i ddiwallu anghenion eich plentyn.

Sylwer, os yw'ch plentyn dan 5 oed ond mewn lleoliad ysgol, mae'n cael ei gefnogi gan broses anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol.

Yn Abertawe ceir SAADYBC, a'i waith yw sicrhau bod lleoliadau'r blynyddoedd cynnar yn gallu nodi ADY mewn plant sy'n iau na 5 oed. Maent yn gweithio gyda'r lleoliadau hyn i'w cefnogi i nodi anghenion dysgu ychwanegol a gwneud yn siŵr bod y cymorth cywir ar waith.

Rwy'n bryderus, â phwy y dylwn gysylltu?

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch datblygiad eich plentyn, dylech gysylltu â'ch ymwelydd iechyd. Byddant yn gwrando ar eich pryderon ac yn eich cynghori'n briodol.

Os yw'ch plentyn yn mynychu'r ysgol, gallwch drafod eich pryderon ag athro dosbarth eich plentyn, Cydlynydd anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) neu brifathro.

Os yw'ch plentyn dan ofal darparwr gofal plant, yn ogystal â'ch ymwelydd iechyd, gallwch hefyd siarad â'r rheolwr neu'r Ymarferydd Anghenion Dysgu Ychwanegol Arweiniol am eich pryderon. Gyda'ch caniatâd, gall eich ymwelydd iechyd, eich darparwr gofal plant a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n cefnogi'ch plentyn, drafod pryderon gyda Thîm Cymorth a Chynhwysiad ADY y Blynyddoedd Cynnar.

Os nad yw'ch plentyn yn yr ysgol ac rydych am siarad ag aelod o Dîm Cymorth a Chynhwysiad ADY y Blynyddoedd Cynnar, gallwch drefnu apwyntiad ar linell gyngor ADY y Blynyddoedd Cynnar. Gellir trefnu apwyntiad drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe (GGD)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023