Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Ysgolion arbennig

Bydd anghenion y rhan fwyaf o blant/bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu diwallu mewn ysgol brif ffrwd. Lle nad yw hyn yn briodol, a lle bo angen mwy o gymorth, gall darpariaeth arbenigol helpu.

Mae dwy ysgol arbennig yn Abertawe sef:

  • Mae Ysgol Crug Glas ar gyfer plant/pobl ifanc 3-19 oed sydd ag anawsterau dysgu cymhleth a dwys. Awtistiaeth gydag anawsterau dysgu difrifol (3-19 oed).
  • Mae Ysgol Pen-y-Bryn ar gyfer plant/pobl ifanc 3-19 oed sydd ag anawsterau dysgu difrifol gan gynnwys anhwylder ar y sbectrwm awtistig ac mae gan lawer ohonynt anawsterau cyfathrebu, ymddygiadol a /neu synhwyraidd cysylltiedig.

Pwy all fynd i ysgol arbennig?

Weithiau efallai y bydd angen i blant/bobl ifanc fynd i ysgol arbennig os yw eu hanghenion yn ddwys ac yn lluosog ac yn sylweddol fwy na'r rheini sy'n gallu cael mynediad i'r cwricwlwm mewn lleoliad prif ffrwd. Er y bydd eich dymuniadau a'ch teimladau'n bwysig, bydd y penderfyniad yn cael ei wneud mewn panel lleoli amlasiantaeth.

Pwy sy'n ymwneud â phanel amlasiantaeth?

Mae panel amlasiantaeth yn cynnwys un o swyddogion y cyngor, pennaeth, CADYau,  therapyddion iaith a lleferydd, athrawon arbenigol, gweithwyr cymdeithasol, seicolegwyr addysg a SNAP Cymru. Maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd i edrych ar yr wybodaeth sydd wedi'i rhannu i wneud argymhellion ynglŷn â darpariaeth a chefnogaeth.

Rwy'n meddwl bod angen i fy mhlentyn/mherson ifanc fynd i ysgol arbennig. Sut rydw i'n gwneud cais?

Mae angen i chi drafod hyn ag ysgol bresennol eich plentyn/person ifanc. Gall yr ysgol hwyluso cyfarfod Adolygu sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn lle mae rhywun yn gwrando ar eich pryderon a'u cofnodi. Bydd angen i'r ysgol gasglu gwybodaeth a'i rhannu â'r cyngor. Byddwn yn mynd â hyn at banel amlasiantaeth o arbenigwyr, a fydd yn penderfynu a yw hyn yn briodol ar gyfer eich plentyn/person ifanc.

Pwy sy'n penderfynu a all fy mhlentyn/mherson ifanc fynd i ysgol arbennig?

Gwneir y penderfyniad hwn gan banel lleoli amlasiantaeth a fydd yn ystyried anghenion eich plentyn/person ifanc. Mae penderfyniad y panel lleoli bob amser yn ystyried barn y rhieni a'r ysgol ac mae'n rhaid iddynt weithio ar y dystiolaeth a roddir iddynt.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023