Toglo gwelededd dewislen symudol

Ailosod ffenestri a drysau

Mae'r holl wydriad newydd yn dod dan reoliadau adeiladu. Golyga hyn bod yn rhaid i unrhyw un sy'n gosod ffenestri neu ddrysau newydd gydymffurfio â safonau perfformiad thermol llym.

Os ydych yn gwerthu'ch tŷ, bydd syrfewyr eich prynwyr yn gofyn am dystiolaeth bod unrhyw wydriad a osodwyd ar ôl mis Ebrill 2002 yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu. Dyma'r ffyrdd y gallwch gydymffurfio:

  • tystysgrif sy'n dangos bod y gwaith wedi'i wneud gan osodwr sydd wedi cofrestru dan un o'r cynlluniau canlynol:
    • cynllun FENSA
    • cynllun CERTASS
    • cynllun BSI.
  • dystysgrif gan yr awdurdod lleol yn dweud bod y gosodiad wedi'i gymeradwyo dan y rheoliadau adeiladu.

Y cynllun hunan-ardystio

Gall cwmnïau gosod sy'n bodloni'r safonau hunan-ardystio'u gwaith. Rhaid eu bod wedi cofrestru dan gynlluniau FENSA, CERTASS neu BSI.  Caiff sampl o waith bob gosodwr ei archwilio gan eu harolygwyr cymeradwy i sicrhau y cynhelir safonau. Bydd FENSA, CERTASS a BSI hefyd yn hysbysu awdurdodau lleol o'r holl osodiadau sydd wedi'u cwblhau ac yn cyflwyno tystysgrifau i ddeiliaid cartrefi yn cadarnhau eu bod yn cydymffurfio.

Bydd angen cymeradwyaeth lawn gan yr awdurdod lleol dan y rheoliadau adeiladu ar gyfer unrhyw osodiad gan unrhyw gwmni nad yw wedi'i gofrestru i hunan-ardystio, neu fel prosiect DIY. Bydd awdurdodau lleol yn gwybod am y gosodwyr cymeradwy yn eu hardaloedd ac yn gallu canfod gwaith heb awdurdod yn hawdd iawn. Sylwch mai chi, fel deiliad y cartref, sy'n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau bod gwaith yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu.

Cyn i chi lofnodi contract i brynu gwydriad newydd, sicrhewch eich bod yn gofyn a yw'r gosodwr yn gallu hunan-ardystio. Os na, bydd yn rhaid iddyn nhw, neu chi, wneud cais i'ch awdurdod lleol am gymeradwyaeth dan y rheoliadau adeiladu, a thalu unrhyw gostau perthnasol.