Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyhoeddiadau diweddaraf am y sioe awyr! Mae Bwrdd Hedfan y sioe awyr yn ôl, ynghyd â ffefryn y gwylwyr.

Gall selogion sioe awyr Cymru sy'n ceisio profiad mwy arbennig fyth brynu tocynnau yn awr ar gyfer Bwrdd Hedfan y digwyddiad.

Gall selogion sioe awyr Cymru sy'n ceisio profiad mwy arbennig fyth brynu tocynnau yn awr ar gyfer Bwrdd Hedfan y digwyddiad.

Mae trefnydd y sioe, Cyngor Abertawe, hefyd wedi cyhoeddi dychweliad arddangosiad poblogaidd.

Disgwylir i'r Sioe Awyr ddenu degau ar filoedd o bobl ar 1 a 2 Gorffennaf, gyda chyfres o arddangosiadau o'r radd flaenaf dros Fae Abertawe.

Digwyddiad am ddim yw Sioe Awyr Cymru - ond mae tocynnau bellach ar werth ar gyfer y Bwrdd Hedfan hynod boblogaidd, a noddir gan Goleg Gŵyr Abertawe

Mae'r parth eistedd hamddenol a diogel hwn, sydd wedi'i neilltuo â ffens, yng nghanol ardal yr arddangosiadau'n sicrhau'r golygfeydd gorau, di-rwystr o'r arddangosiadau awyr. Mae'r parth hwn sydd ar agor o 11am i 6pm ar y ddau ddiwrnod, yn cynnwys byrddau, seddi a phabell fawr i ddarparu cysgod ac mae opsiwn i brynu diodydd a bwyd yn yr un ardal.

Yn dychwelyd eleni hefyd mae Team Raven o dde Cymru, tîm arddangos erobateg patrymog sy'n hedfan awyrennau a adeiladwyd ganddynt hwy eu hunain, sydd wedi perfformio ar draws Ewrop.

Mae chwe pheilot hynod brofiadol y tîm hwn, a ffurfiwyd naw mlynedd yn ôl, yn hedfan awyrennau Vans RV-8 21 troedfedd o hyd, â chyflymdra uchaf o 220mya.

Cyhoeddwyd eisoes fod awyrennau bomio'r Spitfire, yr Hurricane a'r Lancaster yn ymddangos fel rhan o Hediad Coffa Brwydr Prydain, yn ogystal â ffefrynnau'r dorf, Red Arrows yr RAF a Thîm Arddangos Typhoon  yr RAF.

Bydd llawer o awyrennau poblogaidd eraill i'w gweld hefyd a bydd amrywiaeth eang o hwyl i'r teulu ar y ddaear, gan gynnwys arddangosfeydd, profiadau realiti rhithwir a cherddoriaeth fyw.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Rydym yn falch iawn fod Team Raven yn mynd i fod yn hedfan dros Abertawe eto'r haf hwn. Bydd yn wych eu cael yn ôl yn yr awyr uwchben Abertawe."

"Rydym yn diolch i'r holl fasnachwyr a'n noddwyr am eu cyfraniad at lwyddiant parhaus y sioe.

"Mae'r sioe bob amser yn creu awyrgylch teuluol go iawn sy'n arwain at benwythnos gwych i bawb sy'n rhan ohoni. Mae'n cyfrannu miliynau o bunnoedd at ein heconomi leol."

Mwy:

·       Sioe Awyr Cymru, gan gynnwys tocynnau ar gyfer y Bwrdd Hedfan - www.walesnationalairshow.com/cy/

·       Facebook Sioe Awyr Cymru - www.facebook.com/sioeawyrcymru/

·       Instagram Sioe Awyr Cymru - https://www.instagram.com/walesairshow

·       Digwyddiadau yn Abertawe: www.joiobaeabertawe.com

Mae'r timau arddangos yn cynnwys:

·       Hediad Coffa Brwydr Prydain -  www.bit.ly/BOBMF23

·       Instagram Sioe Awyr Cymru - www.instagram.com/walesairshow

·       Team Raven - https://teamraven.co.uk/

·       Red Arrows yr RAF - www.raf.mod.uk/display-teams/red-arrows/

·       Tîm Arddangos Typhoon yr RAF - https://www.raf.mod.uk/display-teams/typhoon-display-team/