Rhagamcanion Poblogaeth ac Aelwydydd
Amcanestyniadau Poblogaeth ac Aelwydydd ar gyfer Abertawe (Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar 2018).
Dylid nodi bod yr amcanestyniadau poblogaeth hyn yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth a thueddiadau cyn Cyfrifiad 2021.
Amcanestyniadau poblogaeth
Mae amcanestyniadau poblogaeth yn rhoi amcan o faint y boblogaeth yn y dyfodol yn seiliedig ar ragdybiaethau genedigaethau, marwolaethau a mudo sy'n deillio o dueddiadau'r gorffennol.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru'r amcanestyniadau poblogaeth diweddaraf yn seiliedig ar ragdybiaethau ar gyfer y 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru ym mis Awst 2020. Mae'r amcanestyniadau hyn yn seiliedig ar 2018 ac maent ar gyfer y cyfnod 25 mlynedd i 2043. Mae'r amcanestyniadau'n seiliedig yn bennaf ar ddata genedigaethau, marwolaethau a mudo dros bum mlynedd (hyd at ganol 2018), ac maent yn cynnwys tybiaethau ar ffrwythlondeb a marwolaethau o'r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol.
Mae nodyn briffio ar gael, sy'n rhoi trosolwg ar amcanestyniadau poblogaeth Llywodraeth Cymru a chanlyniadau allweddol Abertawe. Mae'r nodyn hefyd yn crynhoi'r fethodoleg, y newid yn y boblogaeth a ragamcenir yng Nghymru, y tueddiadau yn ôl grwpiau oedran allweddol, cymariaethau â'r amcanestyniadau blaenorol a'r amcanestyniadau amrywiol cychwynnol a gyhoeddwyd. Amcanestyniadau Poblogaeth Is-Genedlaethol - Abertawe (PDF) [1MB]
Mae'r rhagamcaniadau'n nodi'r hyn a all ddigwydd yn unig os yw tueddiadau poblogaeth (hyd at 2018) yn parhau. Nid ydynt yn caniatáu ar gyfer effeithiau polisïau llywodraeth leol a chenedlaethol, neu newid posib a achosir gan ffactorau demograffig, cymdeithasol ac economaidd diweddar gan gynnwys pandemig COVID-19. Fodd bynnag, mae amcanestyniadau'n bwysig ar gyfer datblygu polisïau, cynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys amcangyfrif angen lleol yn y dyfodol.
Ymgymerir â chyfres newydd o amcanestyniadau is-genedlaethol i ymgorffori data diweddaraf y Cyfrifiad (2021) ac amcangyfrifon poblogaeth cysylltiedig maes o law.
Yn y cyfamser, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi'r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol dros dro yn seiliedig ar 2021 ar gyfer y DU a gwledydd cyfansoddol gan gynnwys Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy wefan y SYG drwy'r ddolen isod.
Amcanestyniadau Aelwydydd
Ym mis Awst 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar 2018 ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru. Daw'r amcanestyniadau aelwydydd o amcanestyniadau poblogaeth sy'n seiliedig ar 2018 a thybiaethau am newidiadau yng nghyfansoddiad a maint aelwydydd yn y dyfodol. Mae nodyn briffio ar yr amcanestyniadau aelwydydd diweddaraf hefyd ar gael ar y dudalen hon. Amcanestyniadau Is-Genedlaethol Aelwydydd - Abertawe (PDF) [1MB]
Unwaith eto, dylid nodi bod yr amcanestyniadau aelwydydd hyn (ar sail 2018) yn seiliedig ar amcangyfrifon a thueddiadau cyn Cyfrifiad 2021, a chânt eu diweddaru ar ôl cynhyrchu amcanestyniadau poblogaeth diwygiedig.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r amcanestyniadau hyn, neu os oes angen mwy o ystadegau demograffig Abertawe arnoch, cysylltwch â ni.