Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Poblogaeth

Ystadegau am boblogaeth ac aelwydydd - amcangyfrifon poblogaeth, tueddiadau diweddar, data ardaloedd bach, dwysedd, nodweddion poblogaeth, amcangyfrifon aelwydydd, rhagamcanion poblogaeth ac aelwydydd.

Yr amcangyfrif swyddogol diweddaraf o boblogaeth Dinas a Sir Abertawe yw 241,300 (amcangyfrif canol blwyddyn 2022, Swyddfa Ystadegau Gwladol) 

Dyma'r ail amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn blynyddol a gyhoeddwyd gan y SYG ers Cyfrifiad 2021.  Maent yn cynrychioli amcangyfrif sydd wedi'i gario ymlaen i 30 Mehefin 2022 o ffigur canol 2021, sy'n rhoi cyfrif am enedigaethau, marwolaethau a newidiadau mudo amcangyfrifedig dros y flwyddyn.  Mae'r amcangyfrif diweddaraf tua 3,400 (+1.4%) yn uwch na ffigur canol-2021.

Bydd gwybodaeth bellach am yr amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer Abertawe, gan gynnwys dadansoddiadau yn ôl oedran a rhyw, elfennau newid a data ar gyfer awdurdodau lleol eraill yng Nghymru ar gael mewn nodyn briffio (PDF) [1MB] a ffeil ddata (Excel doc) [31KB] ar y dudalen hon.

Mae mwy o wybodaeth am y boblogaeth a'r ddemograffeg ar y tudalennau canlynol: 

Os oes gennych fwy o ymholiadau ynghylch ystadegau poblogaeth Abertawe, cysylltwch â ni.

Tueddiadau Poblogaeth Diweddar

Dadansoddiad o newid demograffig tymor hwy yn Abertawe gan ddefnyddio'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn.

Amcangyfrifon poblogaeth blynyddol ardal fach

Mae amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer ardaloedd bach yn Abertawe'n cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (SYC).

Dwysedd poblogaeth

Ystadegau poblogaeth Abertawe ac ardaloedd lleol.

Amcangyfrifon Aelwydydd

Yr ystadegau lleol diweddaraf am aelwydydd yw'r rheini o Gyfrifiad 2021.

Rhagamcanion Poblogaeth ac Aelwydydd

Amcanestyniadau Poblogaeth ac Aelwydydd ar gyfer Abertawe (Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar 2018).
Close Dewis iaith