Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiad bwyd a diod Croeso - amodau a thelerau stondin fasnach

Digwyddiad bwyd a diod Croeso amodau a thelerau stondin fasnach.

Telerau cadw lle a thalu

Mae'r masnachwr yn cytuno i fod yn bresennol a masnachu yn y digwyddiad am hyd llawn y digwyddiad, oni bai y cytunwyd yn wahanol â Thîm Rheoli'r Digwyddiad cyn y digwyddiad, gan gadarnhau'n ysgrifenedig.

Canslo

Bydd unrhyw arddangoswr sy'n canslo, am ba reswm bynnag, neu sy'n methu dod i'r digwyddiad, yn fforffedu'r holl ffioedd y mae wedi'u talu a bydd y swyddfa ddigwyddiau'n cadw'r hawl i ail-osod safleoedd felly. Ni fydd Tîm Rheoli'r Digwyddiad yn gyfrifol am dywydd gwael, galar cenedlaethol neu 'weithredoedd gan Dduw'.

Diogelwch, trwyddedu ac atebolrwydd cyhoeddus

Mae'r holl arddangoswyr yn dod ar eu risg eu hunain.

Mae'n rhaid i'r holl arddangoswyr sicrhau bod ganddynt Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus gwerth o leiaf £5 filiwn sy'n ddilys ar gyfer dyddiadau'r digwyddiad.

Mae'n rhaid i'r holl arddangoswyr sicrhau bod ganddynt y trwyddedau angenrheidiol i gynnal eu busnes yn gyfreithlon ar y diwrnod.

Ar gyfer gwerthwyr alcohol, mae gan y digwyddiad ei drwydded mangre ei hun gan yr awdurdod lleol. Caiff alcohol ei werthu gyda chaniatâd ysgrifenedig Tîm Rheoli'r Digwyddiad ar ôl i amodau gwerthu gael eu bodloni'n unig (caiff hyn ei wirio ar y safle). Bydd yn rhaid i'r holl werthwyr alcohol gwblhau cytundeb masnachwyr alcohol. Argymhellwn yn gryf fod stondinau sy'n gwerthu alcohol yn cael eu goruchwylio gan ddeiliad trwydded personol.

Ni fydd Tîm Rheoli'r Digwyddiad yn gyfrifol am golled unrhyw stoc oherwydd methniant cyfarpar neu bŵer neu ladrad. Darperir diogelwch dros nos fel mesur ataliol.

Talu

Ystyrir pob cais am addasrwydd i sicrhau bod un o'r canlynol yn gymwys:

  • eich bod yn gwerthu cynnyrch Cymreig
  • eich bod yn gynhyrchydd Cymreig
  • eich bod yn fasnachwr Cymreig
  • y byddwch yn defnyddio cynnyrch Cymreig wrth goginio.

Rydym hefyd yn sicrhau nad oes nifer gormodol o geisiadau gan fasnachwyr sy'n gwerthu'r un fath o gynnyrch.

Rheoli'r Digwyddiad yn cysylltu â chi i drefnu'r taliad.

Pecyn gwybodaeth i ar-ddangoswyr

Caiff y llawlyfr i arddangoswyr ei ddosbarthu i'r holl arddangoswyr a gadarnhawyd o leiaf bythefnos cyn y digwyddiad. Bydd yn cynnwys:

  • nodyn i gadarnhau'ch lle, eich rhif a map y safle
  • gwybodaeth am gyfleusterau'r safle
  • gwybodaeth am fynediad, adeiladu, dadlwytho a pharcio.

Gosod a dadosod

Dylai arddangoswyr gofio y bydd amser gosod rhwng 7.00am a 10.00am. Sicrhewch na fydd eich arddangosfa'n estyn y tu hwnt i'r ardal rydych wedi'i chadw. Gellir dadosod arddangosfeydd o 4.00pm bob dydd. Bydd swyddogion diogelwch dros nos yn patrolio'r ardal drwy gydol y nos i'r rhai sy'n gadael stoninau arddangos dros nos. Bydd swyddogion diogelwch yn patrolio'r ardal drwy gydol y nos i'r rhai sy'n gadael stondinau arddangos dros nos. 

Parcio i arddangoswyr

Mae'n rhaid i'r holl gerbydau gosod fod oddi ar y safle erbyn 10.00am ac ni fyddant yn gallu dychwelyd i'r safle tan ar ôl 4.30pm. Mae un lle parcio ar gael ar gyfer pob cais ym maes parcio East Burrows (ger Somerset Place).

Iechyd yr amgylchedd a safonau masnach

Anfonir manylion eich sgôr hylendid bwyd a'r awdurdod cofrestredig cyn y digwyddiad i Adran Iechyd yr amgylchedd a Safonau Masnach Abertawe.

Cyflenwad dŵr

Nid yw'r trefnwyr yn gallu darparu cyflenwad dŵr i safle unrhyw fasnachwr. Er y bydd 2 fan ddŵr ar gael ger y digwyddiad.

Mae unedau golchi dwylo cludadwy ar gael i'w llogi drwy Dîm Rheoli'r digwyddiad a gellir gwneud cais am y rhain ymlaen llaw.

Mae'n rhaid i'r holl gynwysddion bwyd a diod fod yn rhai y gellir eu hailddefnyddio, eu hailgylchu neu eu compostio. Ni chaniateir unrhwy wydr neu blastig wedi'i chwalu. Ni chaniateir defnyddio polystyren.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Rhagfyr 2024