Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Apelio yn erbyn eich Treth y Cyngor

Os nad ydych yn hapus gyda'r swm a godwyd ar gyfer eich Treth y Cyngor, gallwch apelio.

Mae'n rhaid i apeliadau yn erbyn y band mae'ch eiddo wedi'i roi ynddo gael eu hanfon at Asiantaeth y Swyddfa Brisio (Yn agor ffenestr newydd) gan mai dyna pwy wnaeth y penderfyniad hwnnw.

Mae'n rhaid i apeliadau am pwy sy'n atebol am Dreth y Cyngor, gostyngiadau, eithriadau neu ostyngiadau i'r anabl gael eu hanfon at y cyngor gan ein bod ni'n gwneud y penderfyniadau hynny.

Pwy gaiff apelio?

Fel arfer, cewch apelio os mai chi yw'r:

  • sawl sy'n atebol am dalu Treth y Cyngor ar gyfer yr annedd
  • sawl a fyddai'n atebol am Dreth y Cyngor pe na bai'r eiddo wedi'i eithrio rhag Treth y Cyngor
  • sawl sy'n berchen ar yr adeilad

Yn erbyn beth caf apelio?

Cewch apelio os ydych yn anghytuno ag unrhyw benderfyniad ynglŷn ag atebolrwyddgostyngiadaugostyngiadau i'r anabl, neu eithriadau.

Ble ddylwn i anfon f'apêl?

Anfonwch eich apêl ysgrifenedig at: Treth y Cyngor, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN os ydych yn credu:

  • bod bil Treth y Cyngor wedi'i anfon atoch ond nid chi sy'n atebol
  • y dylai'ch cartref fod yn annedd wedi'i heithrio
  • bod swm y bil yn anghywir, er enghraifft os ydych yn credu y dylai gostyngiad, eithriad neu ostyngiad i'r anabl fod yn berthnasol.

NEU

Anfonwch eich apêl at Asiantaeth y Swyddfa Brisio (Yn agor ffenestr newydd) os ydych yn credu:

  • bod eich eiddo wedi'i roi yn y band anghywir.
  • na ddylai'ch eiddo fod ar y rhestr brisio o gwbl.
  • nad yw'r cofnod yn y rhestr brisio'n adlewyrchu natur eich eiddo.

Ni ellir gwneud apeliadau ar y swm a osodwyd ar gyfer Treth y Cyngor nac oherwydd na allwch dalu'r dreth.

Mae'n rhaid talu Treth y Cyngor cyn cael canlyniad unrhyw apêl.

Ar ôl i chi anfon apêl at y cyngor

Mae gennym ddau fis i ystyried eich apêl.

Os nad ymatebwn i'ch apêl o fewn dau fis, cewch apelio'n uniongyrchol i'r Tribiwnlys Prisio. (Mae hwn yn gorff gwahanol i Asiantaeth y Swyddfa Brisio.) Dylech wneud cais i'r tribiwnlys o fewn pedwar mis i'ch apêl gwreiddiol aton ni.

Os anghytunwch â'n hymateb i'ch apêl, cewch apelio i'r Tribiwnlys Prisio o fewn dau fis i gael gwybod am ein penderfyniad.

Tribiwnlysoedd prisio

Mae tribiwnlysoedd prisio'n gyrff annibynnol a sefydlir i wrando apeliadau Treth y Cyngor, Gostyngiad Treth y Cyngor a Sgorio. Fel arfer, ymdrinnir â'r apeliadau mewn gwrandawiad anffurfiol ym mhresenoldeb y sawl sy'n gwneud yr apêl a swyddog Dinas a Sir Abertawe neu swyddog rhestru'r Swyddfa Brisio.

Cyfeiriad y Tribiwnlys Prisio yw: Tribiwnlys Prisio Cymru, 22 Gold Tops, Casnewydd NP20 4PG
Rhif ffôn: 01633 255 003

Ewch i Tribiwnlys Prisio Cymru (Yn agor ffenestr newydd) am ragor o wybodaeth.