Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gostyngiadau i bobl nad ydynt yn cael eu cynnwys (Treth y Cyngor)

Nid yw rhai grwpiau o bobl yn talu Treth y Cyngor a gallai hyn olygu gostyngiadau ar gyfer yr aelwyd gyfan.

Diystyrir rhai pobl at ddibenion Treth y Cyngor. Er eu bod fel arfer yn byw gyda chi, mae hyn yn golygu na wnawn eu cyfrif wrth benderfynu faint o bobl 18 oed neu'n hŷn sy'n byw yn eich eiddo.

Efallai y gallwn roi gostyngiad Treth y Cyngor i chi os yw rhywun yn eich cartref:

  • yn fyfyriwr
  • dan 18 oed
  • person dan 25 oed sy'n gadael gofal
  • yn y carchar neu'n cael ei ddal yn rhywle arall gan yr awdurdodau
  • â nam meddyliol difrifol
  • yn dal i fod yn gymwys i gael budd-dal plant
  • yn brentis neu'n cael hyfforddiant ieuenctid
  • yn glaf mewn ysbyty
  • yn glaf mewn cartref gofal neu nyrsio
  • yn ofalwr
  • yn byw mewn lloches nos/hostel
  • yn aelod o gymuned grefyddol
  • yn gysylltiedig â lluoedd sy'n ymweld neu bencadlys rhyngwladol
  • yn briod neu'n ddibynnydd myfyriwr nad yw'n ddinesydd Prydeinig lle na chaniateir i'r priod/dibynnydd gael cyflogaeth â thâl na hawlio budd-daliadau oherwydd y telerau a ganiataodd iddo ddod i'r DU

Os oes pobl eraill yn byw gyda chi ac rydych yn credu y gallent gael eu diystyru, cysylltwch â ni a gallwn weld a oes gennych hawl i gael gostyngiad. Efallai y gofynnwn am dystiolaeth bod rhywun yn dod dan un o'r grwpiau hyn oni bai y gallwn gael prawf o ffynhonnell arall.

Faint fydd y gostyngiad?

Gallwn roi gostyngiad 25% neu 50% oddi ar eich bil, gan ddibynnu ar faint o bobl rydym yn eu diystyru.

Os ydym yn cyfrif dim ond un person sy'n byw yn eich eiddo gyda'r lleill wedi'u diystyru, gallwn roi gostyngiad 25% i chi.

Os ydym yn cyfrif nad oes neb yn byw yn eich eiddo gan fod pawb wedi'i ddiystyru, gallwn roi gostyngiad 50% i chi.

Er enghraifft

  • Mae Siôn yn byw mewn tŷ mae'n berchen arno. Mae ei chwaer Siân a'i mab Siencyn yn byw gydag ef.
  • Mae Siôn yn 40 oed ac yn anabl.
  • Mae Siân yn 40 oed hefyd a hi yw gofalwr Siôn.
  • Mae Siencyn yn 18 oed ond yn yr ysgol o hyd ac mae Siân yn cael Budd-dal Plant ar ei gyfer.

Mae 3 oedolyn (dros 18 oed) yn byw yn yr eiddo hwn. Fodd bynnag, at ddibenion Treth y Cyngor, byddai Siân yn cael ei diystyru gan mai hi yw gofalwr Siôn ac mae Siencyn yn cael ei ddiystyru oherwydd y telir Budd-dal Plant ar ei gyfer.

Siôn yw'r unig un a ystyrir at ddibenion Treth y Cyngor ac felly byddai ganddo hawl i ostyngiad 25%. Hefyd, efallai y bydd ganddo hawl i ostyngiad i berson anabl gan ddibynnu ar ei amgylchiadau.

Gwneud cais am ostyngiad

Cysylltwch â ni a dywedwn wrthych beth mae'n rhaid i chi ei wneud.

Mae'n rhaid i chi barhau i dalu'ch bil presennol. Os yw gostyngiad yn cael ei roi, gwnawn wiriadau cyfnodol i sicrhau y dylai'r gostyngiad barhau, gan gynnwys gwiriadau gyda sefydliadau allanol megis asiantaethau credyd.

Cofiwch: os yw'r amgylchiadau ynglŷn â'r gostyngiad yn newid, mae'n rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith.

Pobl â nam meddyliol difrifol - cais i berson gael ei ddiystyru at ddibenion Treth y Cyngor

Nid yw person yn cael ei gynnwys at ddibenion gostyngiadau Treth y Cyngor os yw ei feddyg teulu'n ystyried bod ganddo nam meddyliol difrifol a bod hawl ganddo i dderbyn budd-daliadau cymwys y wladwriaeth (er efallai nad yw'n eu derbyn).
Close Dewis iaith