Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut i apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad am eich hawliad am Fudd-dal Tai a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor yna gallwch ofyn am ragor o wybodaeth am ein penderfyniad neu gyflwyno apêl.

Pan fyddwn yn gwneud penderfyniad, byddwn yn anfon llythyr atoch sy'n esbonio sut cafodd eich Gostyngiad Treth y Cyngor neu Budd-dal Tai ei gyfrifo. Bydd y llythyr hefyd yn nodi dyddiadau dechrau a gorffen eich hawl.

Os nad ydych yn deall ein penderfyniad neu rydych am wybod mwy, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib i ofyn am fwy o fanylion.

Os chi yw'r person (neu ddirprwy'r person) a hawliodd Fudd-dal Tai neu Fudd-dal Treth y Cyngor ac rydych yn meddwl bod y cyngor wedi gwneud penderfyniad anghywir ynglŷn â'ch budd-dal, gallwch:

  • ofyn i ni am esboniad a/neu ddatganiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros y penderfyniad, neu
  • ddweud wrthym eich bod yn anghytuno â'r penderfyniad, a pham, a gofyn i ni ei ailystyried, neu
  • apelio yn erbyn y penderfyniad.

Os ydych yn anhapus gyda phenderfyniad Budd-dal Tai, mae'n rhaid i chi ofyn i ni edrych ar y penderfyniad o fewn 1 mis i ddyddiad y llythyr rydym yn ei anfon atoch. Os oes gennych reswm arbennig dros gais hwyr, gallwch ofyn i ni ar ôl 1 mis. Byddwn yn ystyried bod unrhyw apêl wedi'i wneud ar y diwrnod y derbyniwyd eich llythyr/y cwblhawyd y ffurflen apelio, felly sicrhewch ei fod yn ein cyrraedd o fewn mis calendr i ddyddiad ein llythyr. 

Sut i apelio

Os ydych yn penderfynu apelio, mae'n ofynnol o dan y gyfraith ein bod yn derbyn dogfen wedi'i llofnodi gennych yn dweud wrthym beth rydych am ei wneud. Gallwch naill ai gwblhau ffurflen apelio neu ysgrifennu llythyr atom.

Ffurflen apêl Gostyngiad Treth y Cyngor (PDF, 46 KB)

Ffurflen apelio am Fudd-dal Tai (PDF, 46 KB)

Cofiwch lofnodi'r llythyr neu'r ffurflen apelio a'i anfon at Dîm Apelio'r Is-adran Budd-daliadau, y Ganolfan Ddinesig, Oystermouth Road, Abertawe SA1 3SN neu sganiwch y llythyr a'i e-bostio yn budd-daliadau@abertawe.gov.uk. Efallai bydd angen i ni gysylltu â chi am ragor o wybodaeth neu dystiolaeth am yr hyn rydych yn ei ddweud wrthym.

Sut i apelio os ydych yn landlord sy'n derbyn Budd-dal Tai

Os ydych yn landlord eiddo, ceir rheolau arbennig sy'n golygu mai dim ond rhai penderfyniadau penodol y gellir apelio yn eu herbyn neu ofyn i'r cyngor eu hailystyried: 

  • penderfyniad ynglŷn ag a yw Budd-dal Tai yn cael ei dalu'n uniongyrchol i chi
  • swm a chyfnod gordaliad yr ydym wedi penderfynu ei adennill gennych
  • penderfynu a ddylid adennill gordaliad Budd-dal Tai gennych neu beidio

Pan fyddwch yncysylltuâ ni

Pan fyddwch yn ysgrifennu atom am benderfyniad, bydd uwch-swyddog budd-daliadau yn ystyried eich hawl eto i sicrhau nad ydym wedi gwneud camgymeriad.

Os bydd yr uwch-swyddog yn penderfynu nad oedd y penderfyniad gwreiddiol yn gywir, caiff eich hawl ei addasu a byddwn yn anfon llythyr hysbysu newydd atoch gan esbonio sut cafodd y swm newydd o fudd-dal ei gyfrifo. Yna byddai hawl gennych i apelio yn erbyn y penderfyniad newydd hwn.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Chwefror 2024