Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid ar gael i gefnogi banciau bwyd ac elusennau

Gall elusennau a grwpiau cymunedol sy'n darparu cefnogaeth mewn argyfwng i bobl sy'n wynebu tlodi bwyd yn Abertawe bellach wneud cais i'r cyngor am gyllid i gefnogi eu gwaith.

Foodbank generic

Foodbank generic

Mae grantiau ar gael ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau gan gynnwys prynu bwyd o safon a nwyddau hanfodol ychwanegol neu dalu treuliau gweithredu fel costau ychwanegol, treuliau gwirfoddolwyr ychwanegol neu gostau ychwanegol eraill o ganlyniad i gynnydd mewn galw.

Gall prosiectau tyfu a choginio cymunedol hefyd wneud cais am gyllid os yw eu prif nodau'n cynnwys mynd i'r afael â thlodi bwyd, a gall sefydliadau defnyddio'r arian i helpu tuag at aelodaeth FareShare Cymru.

Gall elusennau a grwpiau cymunedol bellach wneud cais am gyllid refeniw trwy fynd i www.abertawe.gov.uk/cronfaCymorthiAelwydydd . Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 10 Mehefin. 

Dyrannwyd Grant Cymorth i Aelwydydd o £83,440 i Gyngor Abertawe gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon er mwyn ariannu'r cynllun. 

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart,   "Mae aelwydydd ar draws Abertawe'n wynebu argyfwng costau byw gyda phrisiau ynni, tanwydd, bwyd a nwyddau hanfodol eraill yn cynyddu ar raddau nad ydym wedi eu profi ers cenhedlaeth. 

"Mae gennym nifer o elusennau gwych, grwpiau gwirfoddol a sefydliadau eraill sy'n gweithio i helpu'r rheini gyda'r angen mwyaf yn Abertawe.

"Rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cymorth wrth ddarparu cyllid i gefnogi'r ymdrechion hynny."

O ganlyniad i'r nifer disgwyliedig o geisiadau, awgrymir bod sefydliadau'n gwneud cais am hyd at £1,500.

Caiff pob cais ei asesu ar sail teilyngdod ond gall grwpiau trafod eu ceisiadau ymlaen llaw os ydynt am wneud hynny trwy e-bostio tacklingpoverty@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Mai 2022