Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Apps Abertawe

Apiau ar gael i'w lawrlwytho i'ch dyfeisiau symudol.

Ap Llwybrau Tawe

Archwiliwch hanes, diwylliant a straeon cyfoethog Abertawe. P'un a ydych yn lleol neu'n ymwelydd, yr ap hwn yw'ch arweiniad i ddarganfod y gemau cudd a'r tirnodau sydd wedi llunio'r lle unigryw hwn.

Dechreuwch eich taith nawr a darganfyddwch ffeithiau diddorol, mapiau rhyngweithiol, teithiau sain a llawer mwy! Dewiswch lwybr neu le a gadewch i'r antur ddechrau!

Ydych chi'n barod i gamu nôl mewn amser? Gadewch i ni archwilio gyda'n gilydd!

Dadlwythwch nawr ar siopau apiau Apple ac Android!

Disgrifiad

Ap am ddim! Darganfyddwch harddwch naturiol a threftadaeth Abertawe drwy ein llwybrau a'n safleoedd treftadaeth sydd ar gael ar yr ap hwn. Mae fersiynau sain ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dewiswch rhwng y testun ar y sgrîn neu gwrandewch wrth i chi gerdded! Gan ddefnyddio GPS, dilynwch eich taith drwy archwilio ein 6 llwybr unigryw fel: Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, y Garreg Wen, Parc Llewelyn, Camlas Clydach, Parc Treforys a Chwm Tawe Isaf! Profwch olygfeydd hyfryd, treftadaeth ddiddorol, hanes a mwy! Ewch tu fas a dechreuwch archwilio! Tybed beth byddwch yn ei ddarganfod ar hyd y ffordd?

Nodweddion

  • Y tab archwilio gydag amryfal opsiynau, gallwch ddewis o: olwg lloeren, golwg stryd neu fap all-lein.
  • Fersiwn sain wedi'i thrawsgrifio'n llawn ar gyfer pob un o'r llwybrau yn Gymraeg ac yn Saesneg.
  • Pinnau cyfeirbwyntiau GPS a gychwynnir yn gywir ar gyfer pob un o'r llwybrau.
  • Lluniau ansawdd uchel o lwybrau a safleoedd treftadaeth.
  • Cardiau post hun-lun gyda fframiau â gwahanol ddyluniadau. 
  • Gosodiadau hygyrchedd
  • Nodweddion all-lein

Tawe Trails app - iTunes store (Yn agor ffenestr newydd)

Tawe Trails app - Google Play Android store (Yn agor ffenestr newydd)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Ebrill 2025