Toglo gwelededd dewislen symudol

Posibilrwydd y gallai Timau Cyngor Abertawe ennill gwobrau'r DU

Mae posibilrwydd y bydd timau ar draws Cyngor Abertawe yn ennill gwobrau mewn rhaglen wobrau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer y DU gyfan.

Swansea Bay

Cânt eu rhestru saith gwaith yng Ngwobrau Gwasanaethau'r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE), 2022. Mae Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer hefyd ar gyfer gwobr cyngor y flwyddyn.

Mae APSE, sef y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus, yn sefydliad nid er elw sy'n ymroddedig i hyrwyddo rhagoriaeth wrth gyflwyno gwasanaethau rheng flaen i gymunedau lleol ledled y DU.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart,"Rwyf wrth fy modd bod ein timau wedi cael eu hanrhydeddu yn y ffordd hon. Mae ein staff yn darparu gwasanaethau o'r radd flaenaf i bobl Abertawe ac mae'n iawn eu bod yn cael eu cydnabod yn genedlaethol."

Caiff enillwyr y gwobrau - o awdurdodau lleol ledled y DU - eu cyhoeddi yng nghanol mis Medi pan fydd cinio gwobrau elusennol blynyddol APSE yn cael ei gynnal yn Arena Abertawe.

Mae'r timau o Abertawe sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cynnwys y rheini o'r adrannau gwastraff, parciau a glanhau, tai a rheolaeth canol y ddinas.

Mae'r gwobrau y maent wedi cyrraedd y rhestr fer ar eu cyfer yn cynnwys: menter gweithlu; menter tai, adfywio neu adeilad newydd; menter masnacheiddio ac entrepreneuriaeth; tîm tai, adeiladu a'r gwasanaeth adeiladau; tîm mannau cyhoeddus, glanhau strydoedd a'r strydlun; tîm mynwentydd a'r amlosgfa.

Meddai Paul O'Brien, Prif Weithredwr APSE, "Mae Gwobrau Gwasanaethau APSE mewn sefyllfa unigryw i gydnabod ymdrech ac ymroddiad enfawr ein gwasanaethau rheng flaen hanfodol.

Rhagor: www.bit.ly/APSEfin2022

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Awst 2022