Ymweld â'r Ganolfan Gyswllt
Gallwch ymweld â'r Ganolfan Gyswllt os oes angen i chi gyflwyno dogfennau gwreiddiol i gefnogi hawliad am fudd-dal newydd neu gyfredol, neu os hoffech drafod ymholiad cymhleth.
Does dim angen i chi drefnu apwyntiad fel arfer, gan fod staff wrth law i'ch helpu yn y Ganolfan Gyswllt rhwng 8.30am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.30am a 4.00pm ar ddydd Gwener.
Os nad ydych yn cyflwyno dogfennau a hoffech siarad ag aelod o staff am eich hawliad, mae nifer o ffyrdd y gallwch wneud hyn:
- anfon e-bost atom yn budd-daliadau@abertawe.gov.uk
- defnyddio ffurflen ar-lein i gysylltu â'r adran Cysylltwch â ni am Ostyngiad Treth y Cyngor neu Fudd-dal Tai
- ein ffonio ar 01792 635353, 9.00am i 4.00pm, dydd Llun i ddydd Gwener
Gallwch hefyd ofyn i ni drefnu apwyntiad i chi siarad ag aelod o staff dros Microsoft Teams o gysur eich cartref eich hun, ar adeg sy'n gyfleus i chi.
Os oes angen apwyntiad arnoch o hyd yn y Ganolfan Gyswllt neu dros Microsoft Teams, llenwch y ffurflen. Nodwch pa fath o apwyntiad y mae ei angen arnoch.Bydd angen i chi roi o leiaf 2 ddiwrnod gwaith o rybudd i ni wrth wneud cais am apwyntiad.
Mae'r ffurflen hon ar gael yn Gymraeg - cliciwch ar 'Cymraeg' ar gornel dde uchaf eich sgrin.