Toglo gwelededd dewislen symudol

Archwiliad i amheuaeth o wenwyn bwyd

Mae gwenwyn bwyd yn salwch a achosir gan fwyta bwyd halogedig. Nid yw fel arfer yn ddifrifol, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella ymhen rhai diwrnodau heb driniaeth.

Mae symptomau gwenwyn bwyd fel arfer yn dechrau un neu ddau ddiwrnod ar ol bwyta bwyd halogedig, ond gall y symptomau ymddangos ar unrhyw adeg o fewn rhai oriau hyd at rhai wythnosau wedi hynny. Mae hefyd yn bwysig nodi na ellir priodoli symptomau gwenwyn bwyd i unrhyw achosion eraill heblaw am facteria megis firysau ac anoddefiadau bwyd.

Yr unig ffordd o gadarnhau fod gennych organeb gwenwyn bwyd yw trwy gyflwyno sampl o ysgarthion drwy'ch meddyg teulu, felly os ydych yn meddwl eich bod yn dioddef o wenwyn bwyd, cysylltwch a'ch meddyg teulu i drefnu prawf.

Os ydych yn amau eich bod wedi cael gwenwyn bwyd ar ol bwyta mewn unrhyw fusnes neu siop fwyd masnachol, gallwch roi gwybod i ni drwy gwblhau'r ffurflen isod.

Byddwn yn monitro'r wybodaeth a ddarperir gennych ac yn cysylltu a chi os bydd angen i ni wneud hynny'n unig.

Pan fydd gennych symptomau, mae'n bwysig eich bod yn cynnal safonau hylendid personol uchel a cheisiwch osgoi coginio bwyd ar gyfer pobl eraill. Os ydych yn gweithio ym maes gofal iechyd, arlwyo neu gyda chleientiaid ifanc neu hen ac mae gennych symptomau o hyd, mae'r canllawiau'n dweud y dylech beidio a dychwelyd i'r gwaith tan i chi dreulio 48 awr heb unrhyw symptomau.

Os bydd profion mewn labordai yn cadarnhau bod gennych organeb gwenwyn bwyd, bydd yr adran yn cysylltu a chi'n ysgrifenedig neu'n ffonio er mwyn i ni gasglu mwy o wybodaeth ynghylch eich salwch.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Chwefror 2024