Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith ar yr arena'n parhau ar un o brif lwybrau Abertawe

Bwriedir cau Oystermouth Road dros nos am ddwy noson yr wythnos nesaf (25 - 27 Hydref) fel y gall arena newydd Abertawe gael ei chysylltu'n llawn â'r system ddraenio.

New greenery on Oystermouth Road

Caiff traffig ei leihau i un lôn i'r dwyrain yn ystod y dydd ddydd Mawrth am ddarn byr o'r ffordd ochr yn ochr â Tesco wrth gyffordd Ffordd y Gorllewin fel y gall peirianwyr gloddio ffos chwe metr o ddyfnder i wneud y cysylltiadau a chwblhau'r gwaith.

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Hoffem ddiolch i fodurwyr a phreswylwyr fel ei gilydd am eu hamynedd. Mae llawer o waith wedi'i wneud ar Oystermouth Road dros yr ychydig wythnosau nesaf i ailfodelu'r rhan hon o'r ffordd ac rydym wedi bod yn ffodus bod y gwaith hwn wedi'i wneud yn ystod y nos gyda chyn lleied â phosib o darfu.

"Mae'r darn diweddaraf hwn o waith yn rhan hollbwysig o'r gwaith gwella a fydd yn cysylltu Bae Copr ag isadeiledd carthffosiaeth a dŵr Dŵr Cymru. Mae chwe metr tua uchder tŷ ac mae angen contractwyr arbenigol i wneud hyn.

"Mae'n anochel y bydd y gwaith yn achosi oediadau ac rydym yn gwneud popeth y gallwn i'w lleihau drwy sicrhau bod y cloddiadau wedi'u cwblhau cyn gynted â phosib. Dewisom y cyfnod hwn i'w wneud gan fod traffig yn tueddu i fod ychydig yn dawelach.

"Hoffem ymddiheuro i unrhyw un gaiff ei ddal mewn unrhyw oediadau neu dagfeydd. Pan fydd y gwaith wedi'i wneud bydd yn golygu y bydd cysylltiadau dŵr a charthffosiaeth hanfodol yn gweithredu'n ddi-ffwdan am flynyddoedd i ddod.