Toglo gwelededd dewislen symudol

Abertawe am anrhydeddu ein Lluoedd Arfog

Bydd Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Graham Thomas, ac arweinwyr lleol eraill yn talu teyrnged i'r rheini sydd wedi gwasanaethu eu gwlad yn y lluoedd arfog mewn seremoni arbennig yn Rotwnda Neuadd y Ddinas Abertawe ddydd Sadwrn 24 Mehefin.

armed forces day stock image

Bydd y Cyng. Thomas yn ogystal â Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y cyngor, y Cyng. Wendy Lewis, Ei Mawrhydi yr Arglwydd Raglaw Louise Fleet YH ac Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, Alan Brayley, yn talu teyrnged i'r rheini sydd wedi gwasanaethu.

Cynhelir y teyrngedau yn Rotwnda Neuadd y Ddinas am 11am a bydd cynrychiolwyr o'r lluoedd arfog, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr ac unedau milwyr lleol hefyd yn bresennol. Mae croeso i breswylwyr fod yn bresennol.

Dylai unrhyw un sy'n dymuno dod i'r seremoni ddydd Sadwrn 24 Mehefin 2023 am 11.00 am gysylltu â lord.mayors.office@abertawe.gov.uk erbyn dydd Llun 19 Mehefin fan bellaf.

Meddai'r Cyng. Thomas: "Diwrnod y Lluoedd Arfog yw cyfle'r gymuned i ddweud 'diolch' i'r rheini yn y gwasanaethau arfog sydd wedi gwasanaethu ac sy'n gwasanaethu eu gwlad a'u cymunedau ar hyn o bryd.

"Er ein bod yn meddwl yn awtomatig am eu rôl mewn sefyllfaoedd o wrthdaro, mae llawer o'u gwaith yn cynnwys y dasg bwysig o gadw'r heddwch, cymorth dyngarol ac, fel rydym wedi'i brofi yn y blynyddoedd diwethaf, darparu gwasanaethau hanfodol ar y cyd â'n gwasanaethau iechyd a brys."

"Mae llawer o ddynion a menywod yr ardal hon yn rhan o'r lluoedd arfog sy'n gwasanaethu mewn amrywiaeth eang o rolau.

"Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog eleni'n gyfle i ddod ynghyd i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'u hymrwymiad a'u haberth. Mae'n ddyled na allwn ei had-dalu, ond gallwn ddangos ein cefnogaeth. Mae'r cyngor wedi penodi Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, ac mae'r Cynghorydd Wendy Lewis wedi arwain yn y gwaith o gyflawni'r ymrwymiad a wnaed gan y cyngor yn ei Gyfamod y Lluoedd Arfog."

Mae'r cyngor yn falch o chwifio baner Diwrnod y Lluoedd Arfog trwy'r wythnos ar ei adeiladau dinesig. Yn ogystal â hyn, caiff adeilad hanesyddol Neuadd y Ddinas ei goleuo'n goch, yn wyn ac yn las gyda'r hwyr ar 24 Mehefin.

Meddai'r Cyng. Lewis, "Mae Cyngor Abertawe bob amser wedi sefyll ochr yn ochr â'r Lluoedd Arfog, gan gefnogi cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a'r rheini sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd a'u teuluoedd. Er bod y diwrnod coffa hwn yn bwysig, mae ein hymrwymiad iddynt fel cymuned ac fel cyngor yn bwysig drwy'r flwyddyn."

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Mehefin 2023