Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog ar 29 Mehefin
Rydym yn dathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog y DU ddydd Sadwrn. Byddwn yn nodi'r achlysur gyda seremoni arbennig yn Rotwnda Neuadd y Ddinas am 11am er mwyn codi baner Diwrnod y Lluoedd Arfog Cymru.
Cyflwynir y digwyddiad gan Arglwydd Faer Abertawe, y Cyng. Paxton Hood-Williams, ac mae croeso i bawb. Bydd adloniant ymlaen llaw ond ceisiwch gyrraedd erbyn 10.45am fan bellaf.
Bydd amrywiaeth o arweinwyr dinesig a chynrychiolwyr y lluoedd arfog yn bresennol.
Mae parcio cyfyngedig ar gael yn yr ardal felly cadwch hynny mewn cof.
Nos Sadwrn byddwn yn goleuo Neuadd y Ddinas yn goch, gwyn a glas i anrhydeddu personél a chyn-filwyr y Lluoedd Arfog, a'u teuluoedd.
Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cael ei ddathlu ar 6 Gorffennaf yn Sioe Awyr Cymru gyda Phentref Cyn-filwyr arbennig. Bydd y Pentref Cyn-filwyr, a gefnogir gan Y Lleng Brydeinig Frenhinol, yn cynnwys amrywiaeth o elusennau sy'n ymwneud â gwasanaethu sy'n helpu'n cymuned y lluoedd arfog, ac anogir y cyhoedd i ymweld â nhw a'u cefnogi.
Bydd pabell fawr lle gall cyn-filwyr sgwrsio, ymlacio a cheisio cyngor arbenigol yn breifat dros baned o de neu goffi.