Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymunedau'n talu teyrnged i'n lluoedd arfog

Daeth cymunedau o bob rhan o Abertawe ynghyd yn Neuadd y Ddinas dros y penwythnos ar gyfer seremoni arbennig i dalu teyrnged i luoedd arfog ein cenedl.

armed forces day stock image

Daeth aelodau o'r cyhoedd a phwysigion lleol ynghyd ar gyfer y digwyddiad ar rotwnda Neuadd y Ddinas fel rhan o Ddiwrnod y Lluoedd Arfog, teyrnged flynyddol i gyn-filwyr a'r rheini sy'n gwasanaethu.

Roedd Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Graham Thomas, a phwysigion lleol eraill gan gynnwys Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Wendy Lewis, Ei Fawrhydi yr Arglwydd Raglaw Louise Fleet YH ac Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, Alan Brayley, i gyd yn bresennol.

Roedd cynrychiolwyr o'r lluoedd arfog, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr, unedau cadetiaid lleol a phreswylwyr lleol hefyd yn bresennol.

Meddai'r Cyng. Thomas, "Diwrnod y Lluoedd Arfog yw cyfle'r gymuned i ddweud 'diolch' i'r rheini yn y lluoedd arfog sydd wedi gwasanaethu ac sy'n gwasanaethu eu gwlad a'u cymunedau ar hyn o bryd.

"Mae llawer o ddynion a menywod yr ardal hon yn rhan o'r lluoedd arfog sy'n gwasanaethu mewn amrywiaeth eang o rolau."

Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddod ynghyd i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'u hymrwymiad a'u haberth. Mae'n ddyled na allwn ei had-dalu, ond gallwn ddangos ein cefnogaeth. Mae'r cyngor wedi penodi Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, ac mae'r Cynghorydd Wendy Lewis wedi arwain yn y gwaith o gyflawni'r ymrwymiad a wnaed gan y cyngor yn ei Gyfamod y Lluoedd Arfog."

"Mae'r cyngor wedi bod yn falch o chwifio baner Diwrnod y Lluoedd Arfog drwy'r wythnos ar ei adeiladau dinesig. Yn ogystal, cafodd Neuadd y Ddinas ei goleuo'n goch, gwyn a glas gyda'r hwyr ar 24 Mehefin."

Meddai'r Cyng. Lewis: "Mae Cyngor Abertawe bob amser wedi sefyll ochr yn ochr â'r Lluoedd Arfog, gan gefnogi cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a'r rheini sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd a'u teuluoedd. Er bod y diwrnod coffa hwn yn bwysig, mae ein hymrwymiad iddynt fel cymuned ac fel cyngor yn bwysig drwy'r flwyddyn."

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Mehefin 2023