Toglo gwelededd dewislen symudol

Dewch i siarad: Byw yn Abertawe

Mae Dewch i siarad: Byw yn Abertawe yn arolwg am breswylwyr sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Abertawe.

Mae eich llais yn bwysig

Trwy ymateb i'r arolwg hwn byddwch yn helpu Cyngor Abertawe i ddeall yn well:

  • Beth sy'n bwysig i chi
  • Eich profiad o'ch ardal leol
  • Sut rydych chi'n gweld ac yn rhyngweithio â'r Cyngor

Yn y pen draw, bydd eich barn yn helpu i lunio eich ardal leol a'ch gwasanaethau lleol. Felly, mae'n bwysig clywed gan gymaint o breswylwyr â phosibl. Anogwch eich teulu, ffrindiau a chymdogion i gwblhau'r arolwg hwn.

Sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio

Mae Data Cymru yn cynnal yr arolwg hwn ar ran Cyngor Abertawe. Bydd gwybodaeth a allai eich adnabod yn cael ei gweld gan Gyngor Abertawe a Data Cymru yn unig. Bydd y wybodaeth yn cael ei chadw am 3 mlynedd o'r dyddiad y mae'r arolwg yn cau yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR). Bydd eich cyfeiriad IP yn cael ei gasglu i helpu i nodi ymatebion dyblyg neu amhriodol..

Mae rhagor o wybodaeth am sut y caiff eich data ei ddefnyddio ym hysbysiad preifatrwydd y Cyngor a pholisi preifatrwydd Data Cymru.

Cwblhau'r arolwg

Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. A fyddech chi cystal ag ymateb erbyn 10 Tachwedd 2024.

Mae'r arolwg hwn hefyd ar gael mewn fformatau eraill.

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach, neu os cewch unrhyw anhawster wrth gwblhau'r arolwg ar-lein, e-bostiwch consultation@swansea.gov.uk.

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau technegol, cysylltwch â arolygon@data.cymru neu ffoniwch 029 2090 9500.

Cwblhau'r arolwg

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Medi 2024