Toglo gwelededd dewislen symudol

Arolwg ymgmgynghori ar y gyllideb

Her ein cyllideb - mynnwch lais.

Os oes angen yr arolwg hwn arnoch mewn fformat arall e.e. print bras, e-bostiwch ymgynghoriad@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 636732.

Bob blwyddyn mae Cyngor Abertawe'n cytuno ar sut a ble y bydd yn gwario'i gyllideb ar wasanaethau sy'n effeithio arnoch chi. I'n helpu i wneud hyn, rydym yn gofyn cwestiynau i'r cyhoedd yn seiliedig ar eich blaenoriaethau a sut yr hoffech chi i ni reoli ein heriau ariannol.

Mae'r argyfwng costau byw wedi cyflwyno heriau digynsail i aelwydydd ledled y wlad. Effeithiwyd ar y Cyngor mewn ffyrdd tebyg, fel y biliau ynni uwch sy'n costio tua £5 miliwn yn fwy na chyn yr argyfwng. Ar ben hyn, mae chwyddiant wedi parhau'n uchel ar gyfer tâl, sy'n golygu bod costau popeth rydym yn ei brynu ac yn ei ddefnyddio wedi cynyddu. Ar yr un pryd cytunwyd yn genedlaethol ar ddyfarniadau cyflog cenedlaethol
a chyfraniadau yswiriant cenedlaethol heb fod digon o arian yn cael ei ddarparu gan lywodraethau Cymru a'r DU i dalu amdanynt.

Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i ni adolygu'r ffordd rydym yn gwneud pethau i barhau i fod yn fwy effeithlon a lleihau ein costau ymhellach fyth. 

Mae eich barn yn bwysig iawn i ni a chaiff ei hystyried wrth i'r Cyngor wneud ei benderfyniadau ynghylch gwariant ac arbedion ym mis Mawrth.

Cliciwch yma i gwblhau'r arolwg ar-lein nawr

Dyddiad cau: 11.59pm, 16 Chwefror 2025

Arolwg ygyllideb 2025 (PDF, 1 MB)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Ionawr 2025