Toglo gwelededd dewislen symudol

Menter bysus am ddim yn Abertawe'n arwain at gynnydd yn nifer y teithwyr

Mae cynnig i deithio ar fysus am ddim a lansiwyd yr haf hwn gan Gyngor Abertawe wedi arwain at filoedd o bobl yn ymweld â rhannau poblogaidd o'r ddinas gan gynnwys Gŵyr a chanol y ddinas.

free ride swansea

Mae'r ystadegau diweddaraf ar niferoedd teithwyr a ddarparwyd i'r cyngor gan weithredwyr bysus wedi dangos cynnydd enfawr mewn niferoedd teithwyr ar draws llawer o lwybrau.

Cynyddodd teithiau i benrhyn Gŵyr ac oddi yno ar y penwythnos cyntaf 65% wrth i lawer o deuluoedd fwynhau trip undydd i'r traethau niferus yno.

Mae niferoedd teithwyr ar draws gwasanaethau a ddarperir gan First Cymru hefyd wedi dyblu.

Lansiwyd y cynnig teithio am ddim ym mis Gorffennaf fel rhan o gynllun adfer £20 miliwn y cyngor i helpu i hybu'r economi leol a chynorthwyo teuluoedd yn dilyn y pandemig.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Mae effaith y pandemig wedi cael effaith ddifrifol ar deuluoedd a busnesau lleol sydd wedi wynebu trafferthion ariannol.

"Bwriad y cynllun adfer rydym wedi'i ddatblygu yw helpu'r ddinas i adfer, ac mae'r cynnig bysus am ddim wedi bod yn ffordd wych o gefnogi pawb yn ystod gwyliau'r haf.

"Mae'r ymateb gan y cyhoedd i'r cynnig teithio am ddim wedi bod yn rhagorol. Rydym wedi clywed gan lawer o deuluoedd sydd wedi elwa ac wedi cael haf penigamp o'i herwydd."

Meddai Richard Davies, Rheolwr Cyffredinol ar gyfer New Adventure Travel, "Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer ein cwsmeriaid sy'n defnyddio'r llwybr lleol yn Abertawe yn ogystal â'n rhwydwaith o lwybrau bysus sy'n gwasanaethu Gŵyr yn ystod y cyfnod teithio am ddim.

"Mae wedi bod yn wych gweld teuluoedd yn gallu mwynhau archwilio Gŵyr ac yn defnyddio amserlen gwasanaethau ychwanegol yr haf ar ôl cyfnod sydd wedi bod yn anodd i bawb. Dros 4 penwythnos y cynllun am ddim, hyd yn hyn rydym wedi gweld dros 70% yn fwy o gwsmeriaid yn defnyddio gwasanaethau Gŵyr na'r 4 penwythnos cyfatebol ym mis Gorffennaf."

Un teulu o'r fath yw teulu Rose Fowler o Gilâ a gysylltodd â'r cyngor i ddiolch i bawb am y gwahaniaeth y mae wedi'i wneud. Meddai Rose, "Mae wedi bod yn fendith i fi a fy mab a dwi wedi arbed ffortiwn, o leiaf £24 yr wythnos, ac mae hynny ar gyfer tair siwrne'n unig.

"Mae'r cynllun bysus am ddim wedi codi calonnau llawer o bobl ac mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'n bywydau."

Disgwylir i'r cynnig am ddim barhau am un penwythnos arall (27 - 30 Awst) ac anogir y cyhoedd i wneud yn fawr ohono a mwynhau diwedd yr haf cyn i'r plant fynd yn ôl i'r ysgol.

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Gobeithiwn y bydd teuluoedd yn gwneud yn fawr o'r penwythnos Gŵyl y Banc sydd ar ddod ac yn parhau i ddefnyddio'r cynnig bysus am ddim.

"Bydd llawer eisoes wedi arbed arian drwy deithio o gwmpas Abertawe am ddim, a gobeithio bod hyn yn golygu bod gwasanaethau busnesau lleol hefyd wedi cael hwb o ganlyniad i'r ffaith bod mwy o bobl o gwmpas y lle.

"Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd cludiant cyhoeddus yn elwa o hyn yn y tymor hir wrth i fwy o bobl sydd efallai heb deithio ar fws o'r blaen ddewis defnyddio bysus i deithio o gwmpas y ddinas a gadael y car gartref."

Meddai Russell Greenslade, Prif Weithredwr BID (Rhanbarth Gwella Busnes) Abertawe, "Rydym wrth ein boddau i weld cynifer o bobl yn manteisio ar gynnig bysus am ddim hael iawn Cyngor Abertawe. Mae'n bwysicach nag erioed ar yr adeg hollbwysig hon i fusnesau, ein bod yn gwneud popeth y gallwn i gefnogi cwmnïau mewn ffordd ymarferol a dychmygol, ac atgoffa defnyddwyr ac ymwelwyr â'r ddinas fod canol y ddinas ar agor ac yn cynnig profiadau unigryw a deniadol.

"Mae'r gwasanaeth bysus am ddim wedi bod yn ffordd wych o gyfleu'r neges a hoffem ddiolch i Gyngor Abertawe am fwrw ymlaen â'r fenter hon."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Awst 2021