Toglo gwelededd dewislen symudol

Pris prydau ysgol yn aros fel y mae wrth i ddisgyblion baratoi i ddychwelyd i'r ysgol

Mae pris prydau ysgol wedi'i rewi yn Abertawe cyn i disgyblion ddychwelyd i'r ysgol yr wythnos nesaf.

Stock image of a school meal

Stock image of a school meal

Mae'n golygu y bydd teuluoedd sy'n dewis defnyddio'r gwasanaeth o fis Medi'n parhau i dalu £2.40 y dydd.

Mewn blwyddyn arferol, mae timau arlwyo ysgolion yn gweini oddeutu 13,000 o brydau poeth bob dydd yn ysgolion cynradd ac uwchradd Abertawe.

Maent wedi gweithio'n galed i gynnal y gwasanaeth lle bo modd trwy gydol y pandemig, gan ymateb yn aml ar fyr rybudd i sefyllfaoedd sy'n newid.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, y Cyng. Robert Smith, "Mae'r cyngor wedi sylweddoli, o ganlyniad i'r pandemig, ei bod hi'n dynn ar lawer o deuluoedd, felly er gwaethaf pwysau cost sylweddol ar y gwasanaeth, ni fydd pris prydau ysgol yn codi.

"Mae hyn yn golygu y bydd prydau ysgol yn parhau i ddarparu gwerth am arian wrth i'r timau arlwyo barhau i ddefnyddio cynnyrch ffres lleol ac annog bwyta'n iach lle bo modd."

Yn ystod y pandemig, mae nifer y teuluoedd sydd wedi cofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim wedi cynyddu.

Ychwanegodd y Cyng. Smith, "Mae rhieni neu ofalwyr sy'n derbyn nifer o fudd-daliadau'n gymwys a byddwn yn annog unrhyw un sy'n credu y gallent fod yn gymwys i ymweld â'r wefan yn www.abertawe.gov.uk/prydauysgolamddim. Gall y rheini nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd ffonio'r cyngor ar 01792 635353.

"Mae'r rhan fwyaf o ysgolion Abertawe'n gweithredu system dalu ddiogel heb arian parod, sy'n gwneud y broses mor hawdd â phosib.

"Mae'n bwysig iawn i'w haddysg fod plant yn cael cinio maethlon a boddhaol i'w helpu i fod yn barod ar gyfer eu gwersi yn y prynhawn."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Awst 2021