Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o ardaloedd chwarae yn y ddinas yn cael eu huwchraddio

Agorodd Barc Llansamlet ei ddrysau'n llydan agored ddoe i groesawu dwsinau o blant ifanc a theuluoedd a oedd yn helpu i ddathlu agoriad swyddogol ei ardal chwarae i blant sydd wedi'i huwchraddio.

llansamlet park

Ariannwyd y gwaith uwchraddio gwerth £80,000 yn Llansamlet, sy'n cynnwys amrywiaeth o gyfarpar chwarae yr oedd preswylwyr lleol wedi'u dewis, drwy grant gan Lywodraeth Cymru.

Ac mae'n ychwanegol i brosiect adfywio ardal chwarae enfawr a ariennir gan Gyngor Abertawe a fydd yn gweld dros 30 o barciau eraill yn cael eu trawsnewid.

Agorwyd y parc yn swyddogol gan Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, a gwnaeth y gymuned yn siŵr ei fod yn ddiwrnod cofiadwy trwy drefnu ffair fach a oedd yn cynnwys llawer o stondinau, hwyl a gemau i'r plant eu mwynhau.

Mae'r ardal chwarae ym Mharc Llansamlet yn cynnwys amrywiaeth o gyfarpar chwarae i gadw plant ifanc yn hapus am oriau ar y tro. 

Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ein rhaglen o ardaloedd chwarae gwell a mwy lliwgar i'n plant, yn newyddion gwych. Mae'n golygu y gall hyd yn oed mwy o ardaloedd yn ein dinas elwa ohoni.

Diolch i'w chefnogaeth, a thros £2m rydym wedi'i glustnodi hefyd, bydd ardaloedd chwarae poblogaidd ym mhob ward yn Abertawe yn cael bywyd newydd. Mae'r cyngor yn gweithio'n agos gydag aelodau wardiau a grwpiau cymunedol fel y gall pobl ifanc dderbyn y cyfarpar chwarae yr hoffent ei gael.

"Yn ystod y pandemig gwnaethom sicrhau bod ardaloedd chwarae yn cael eu cadw ar agor er mwyn i blant ifanc allu chwarae'n ddiogel a daethant yn hafan ddiogel bwysig i deuluoedd ifanc ar adeg anodd.

 "Rwyf wedi ymweld â nifer o barciau o gwmpas y ddinas sydd eisoes wedi cael eu huwchraddio ac mae llawer mwy i ddod dros y misoedd nesaf ar draws y ddinas. Mae'n wych gweld pobl ifanc yn mwynhau eu hunain yn y parciau newydd."

Mae gwaith uwchraddio newydd ddechrau ym Mharc Ravenhill ac yn yr ardal chwarae boblogaidd ger llyn cychod Parc Singleton. Disgwylir i'r gwaith yn y ddau leoliad gael ei gwblhau mewn tua chwe wythnos.

Hyd yn hyn, cwblhawyd gwaith uwchraddio mewn wyth lleoliad o gwmpas y ddinas gyda chynlluniau yn yr arfaeth ar gyfer rhagor mewn ardaloedd gan gynnwys Mayhill, Treforys, Llandeilo Ferwallt a Chwmbwrla.

I gael rhagor o wybodaeth am yr holl leoedd chwarae yn eich cymuned, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/LleoeddChwarae 

Close Dewis iaith