Gwirfoddoli a hyfforddi
Ffordd wych o gymryd rhan mewn chwaraeon a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned leol
Mae gwirfoddoli'n ffordd wych o gymryd rhan mewn chwaraeon a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned leol drwy ddarparu help a chefnogaeth i glybiau chwaraeon lleol, neu weithgareddau chwaraeon ac iechyd yn y gymuned. Fel gwirfoddolwr byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu'ch sgiliau presennol, dysgu sgiliau newydd yn ogystal â chael cyfle i gwrdd â phobl newydd.
Dod yn wirfoddolwr chwaraeon ac iechyd
Oes gennych ychydig o amser rhydd a diddordeb mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol? Os oes, gallai dod yn wirfoddolwr chwaraeon ac iechyd fod yn addas i chi. Mae'r Tîm Chwaraeon ac Iechyd bob amser yn chwilio am bobl frwdfrydig ac ymroddedig i helpu i gyflwyno sesiynau ar draws ein holl gynlluniau, gan gynnwys Chwaraeon Cymunedol, y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS), ac Oedolion Hŷn Heini. Byddwn yn darparu hyfforddiant am ddim i wirfoddolwyr sy'n awyddus i gymryd rhan.
Mae llawer o ddisgyblion hŷn mewn ysgolion yn cymryd rhan mewn arweinyddiaeth a hyfforddi, yn ogystal â chyn disgyblion a myfyrwyr ar draws sefydliadau addysg bellach ac uwch Abertawe. Fodd bynnag, mae'r tîm hefyd yn awyddus i recriwtio mwy o wirfoddolwyr lleol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni, cliciwch Bod yn wirfoddolwr chwaraeon ac iechyd Gwirfoddoli a hyfforddi i lenwi'r ffurflen gais.
Cysylltu â ni...Chwaraeon ac Iechyd Abertawe
Rydym am i chi gymryd rhan...
Rydym yn gobeithio'ch gweld chi'n fuan yn un o'n gweithgareddau, ac os nad ydych chi eisoes yn gwneud, sicrhewch eich bod yn ein dilyn ni ar Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Facebook (Yn agor ffenestr newydd), Chwaraeon ac Iechyd Abertawe X (Yn agor ffenestr newydd),Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Instagram (Yn agor ffenestr newydd) a Chwaraeon ac Iechyd Abertawe YouTube (Yn agor ffenestr newydd) a chofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio Chwaraeon ac Iechyd ein rhestr bostio (Yn agor ffenestr newydd) i fod y cyntaf i glywed ein newyddion ac i gael rhagor o wybodaeth amdanom.