Chwaraeon ac iechyd
Helpu i greu dinas iachach a mwy actif.

Sesiynau a Gweithgareddau Chwaraeon ac Iechyd
Mae Chwaraeon ac Iechyd yn cynnig gweithgareddau difyr mewn parciau, gan annog pobl i wneud ffrindiau newydd a mwynhau mannau gwyrdd yn eu cymunedau lleol.

Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad a Freedom Leisure
Dathlu Pencampwyr Chwaraeon 2024

Us Girls a GemauStryd
Gwersylloedd a sesiynau Us Girls arobryn i ferched rhwng 8 a 14 oed.

Pobl Ifanc Actif
Hoffai Tîm Chwaraeon ac Iechyd Abertawe weld 'pob plentyn a pherson ifanc wedi gwirioni ar chwaraeon am oes'.

Oedolion Hŷn Actif
Gweithgarwch corfforol a chwaraeon i bobl dros 60 oed yn Abertawe.

Canolfannau Abertawe
Mae gan Abertawe nifer o ganolfannau hamdden a chwaraeon ar draws y ddinas. Mae ein holl ganolfannau hamdden a chwaraeon mawr yn cael eu rheoli gan ein partner Freedom Leisure sy'n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau, cyfleusterau ac opsiynau aelodaeth.

Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru
Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn caniatáu i weithwyr iechyd proffesiynol atgyfeirio cleifion ag amrywiaeth o gyflyrau meddygol i raglen tymor byr o weithgareddau corfforol dan oruchwyliaeth mewn lleoliad lleol.

Gwirfoddoli a hyfforddi
Ffordd wych o gymryd rhan mewn chwaraeon a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned leol

Chwaraeon i'r Anabl
Cyfleoedd chwaraeon cynhwysol yn Abertawe.
Cyrsiau achub bywyd
Mae'r tîm Diogelwch Dwr yn cynnal nifer o gyrsiau Cymhwyster Achub Bywyd y Pwll Cenedlaethol (NPLQ) 8fed Rhifyn Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd i roi'r gofyniad sylfaenol i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am swyddi fel achubwyr bywyd pwll/swyddogion hamdden.

Cerdded
Mae digon o ddewis i gerddwyr yn Abertawe a phenrhyn Gŵyr. Mae popeth ar gael yno, o bromenadau gwastad a pharcdir ar gyfer tro hamddenol i deithiau cerdded mwy heriol dros draethau, gweundir a thrwy goedwigoedd hynafol.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 19 Chwefror 2025